Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

DAEAREG Y PLWYF.

WRTH sylwi ar y plwyf, canfyddir ar unwaith mai nid gwastadedd parhaus ffyna yma, megis yn Sir Gaerlleon (Cheshire), ond bryniau a dyffrynoedd. Naturiol yw i ni ofyn ym mha fodd y ffurfiwyd y dyffrynoedd hyn. Nid yw y dysgedigion yn un—farn ar y pwnc. Rhoddwn yma ddamcaniaethau dau o'r prif awdurdodau ута ar y mater, sef Sir Henry de la Beche ac A. C. Ramsay, LL.D., F.R.S. Dywed y blaenaf yn ei lyfr "Ar ffurfiad creigydd Deheudir Cymru a Deheu—Orllewinol Lloegr' fel hyn Y mae dwy ddamcaniaeth i esbonio ffurfiad y dyffrynoedd, sef (1) Canlyniad ydynt i ddylanwad rheolaidd y môr; (2) Rhuthriadau chwyrnllyd cyrph o ddyfroedd yn dyfod dros arwynebedd y tir, gan ysgubo ymaith yn sydyn ddarnau o fater, mwy eu maintioli na holl dir yr ardal sydd yn awr yn uwch na gwastadedd y môr.

Y mae trefniad y cymoedd pa rhai a estynant (nid o ganolbwynt neu gyfres o ganolbwyntiau) tua phob pwynt y cwmpas yn erbyn yr ail ddamcaniaeth. Hawdd yw credu fod rhuthriadau sydyn o ddyfroedd yn dylanwadu yn lleol ar y treuliad arwynebol, ond nid mor gredadwy yw y gosodiad eu bod wedi cynyrchu cydffurfiad y dyffrynoedd hyn. Felly, arweinir Sir Henry i gredu'r ddamcaniaeth flaenaf.

Dywed Dr. Ramsay yn ei " Ddaeareg Physigol a Daearyddiaeth Prydain Fawr," tudalen 205, fod yr anghyfartaledd rhwng y dyffrynoedd wedi ei achosi gan wlaw.