Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oddiwrth y Darlunlen Daearegol, cawn mai haenau y Lower Silurian[1] sydd yn y plwyf. Y mae'r "Argillo Slates" rhwng Llynddwr a phentre Llandyssul, ac hefyd yn ardal Tregroes. Nodir "Drift" rhwng Alltyrodyn a'r Camnant. Dywed W. Jerome Harrison, yn ei lyfr ar Ddaeareg, "Nid oes unrhyw linell wahaniaethol eglur wedi ei gwneyd rhwng "Gwelyau Bala" a'r rhai sydd uwchlaw iddynt, sef creigydd Is—Llanddyfri, pa rai a orchuddiant gylch helaeth yn cynnwys holl Sir Aberteifi." Ond i fanylu ar y plwyf: y mae rhandir cul o Alluvium ar hyd Afon Teifi, a lifa yn gyfangwbl dros graig lwyd. Arddengys y rhelyw o'r plwyf haenau y Lower Silurian, o'r ffurfiad cyntaf. Nid yw'r haenau Siluraidd yn ffafriol i'r amaethwr, oherwydd eu bod yn cau allan tu hwnt i amheuaeth y garreg galch. Yn Siroedd Penfro a Chaerfyrddin, torwyd ar y ffurfiad Siluraidd gan ryw chwyldroad a gododd i fyny yr arwynebedd mor belled ag i symud y garreg galch ulyfddygol (carboniferous), o gyrhaedd y diluw, yr hon a ysgubodd ymaith y garreg yn lân oddiwrth wynebpryd Sir Aberteifi, heb adael troedfedd ysgwar o honi ar ol. Dyna paham y gorfodir amaethwyr Sir Aberteifi i ymofyn eu calch o Sir Gaerfyrddin.

Nid oes gwythien o lô yn yr haenau Siluraidd; ni cheir modfedd o honi yn Sir Aberteifi. Gwaith ofer fyddai ei chwilio, canys nid oes glô yn y Lower Silurian, na ffurfiad yr Upper Cambrian."

Cynnwysa haenau Siluraidd y plwyf gyfres Llandilo o greigiau, sef clai, llechau a thwyodfaen clobynog (conglomerate sandstone). Y mae haen o'r tywodfaen clobynog yn rhedeg trwy Álltyrodyn a Choedfoel i Gastell Gwilym ger Llynddwr, lle y diflana. Nid yw ffurfiad daearegol y plwyf yn ddyddorol, canys ni chynnwysa ond ychydig os dim ffosylau (fossils). Yn chwarel Gwaralltyfaerdre ceir y cerrig adeiladu goreu yn yr holl wlad. Tywodfaen o liw goleu prydferth ydynt, o blethiad (texture) unffurf, mor gryfed a gwenithfaen, cryfach na mynor, dros dri chryfder

  1. Yn lle Lower Silurian awgrymodd Prof. Lapworth yn 1879 y term "Ordovician yr hyn a ddefnyddir gan Nicholson yn ei lyfrau, ond a wrthodir gan Geikie.