Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

HYNAFIAETHAU.

(a) Cerrig Hyllod.
(b) Carreg Veltor.
(c) Cestyll.
(d) Brwydrau.
(e) Siartr Frenhinol.
(f) Dwy hen Ewyllys.
(g) Meini Llaw-felin.
(h) Hen Bont Llandyssul.
(i) Hen Gerfiad.
(j) Peithinen.
(k) Hen Fibl.

CERRIG HYLLOD.

ELWIR y cerrig hyn yn gerrig hyllod neu hyll[d]od (ugly) Penlôn. Y maent yn lled ddiaddurn, ond byddai yr enw "cerrig cellog" neu" gerrig tyllog" yr un mor briodol. Safant ar gongl uchaf cae Goyallt Penlôn yn nghwm Tegryd, ger ffin tir Cefn-Llanfair. Dywedai un person fod "tebygolrwydd rhyngddynt a gweddillion cofadeiladau mawrion y sefydliad Derwyddol." Yr wyf o'r farn mai nid dyn a'u gosododd yma o gwbl, ond gwaith natur ydynt; os cywir hyn, credaf iddynt gael eu dwyn i'w safle presenol yn ystod y cyfnod iâaidd (glacial period.) Os yr edrychwn arnynt yn graffus, canfyddwn fod eu rhychenau (striae) yn groes î'r grân, ac felly yn arddangos fod talpau o iâ neu rywbeth arall wedi rhwbio a hwynt. Pentwr o gerrig ydynt; mesurwyd y rhai mwyaf, a