Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chawd (1) uchder y garreg ucha, ar y llaw ddehau, wrth sefyll ar y bryn ac edrych i lawr i'r dyffryn, yn 18 troedfedd. (2) Hyd yr ail garreg, 21 troedfedd a 9 modfedd. (3) Mesuriad gorwelaidd (horizontal) mwyaf y garreg isaf yn 33 troedfedd. (4) Uchder unionsyth mwyaf y garreg isaf yn 20 troedfedd a 6 modfedd.

Amrywiant yn eu ffurf; y mae rhai yn bedair-onglog, ereill yn dair-onglog, a'r rhelyw yn finiog a phigog. mae agenau mawrion a bychain rhyngddynt, un o ba rhai sydd mor fawr fel y gellir myned i fewn iddi.

Ymddengys un o'r cerrig o gyfeiriad y dê fel mur hen gastell, un rhan o dair o ba un a orchuddir a iorwg. Odditanynt ar waelod y cae bu un amser dŷ a elwid Rhydychen, lle y trigai cymeriad hynod o'r enw Ifan. Ar y Suliau, arferai fyned i ben y cerrig hyn i bregethu i'r bobl ddelent i'w wrando.

Y mae y cerrig sydd ar waelod y cwm ger Afon Clettwr a'r rhai sydd ar y bryn gyferbyn a Cherrig Hyllod yn deilwng o sylw yr ymwelydd.

CARREG VELVOR.

Y mae carreg hynod yn mur mynwent Eglwys y plwyf. Gosodwyd hi yn ei safle bresenol gan y Parch. W. G. Jenkins, y Ficer presenol. Saif tua 4 troedfedd a 9 modfedd o fwlch y fynwent ar y llaw ddehau, a 2½ troedfedd o waelod y mur. Y mae yn 17 modfedd o hyd, a 14 o uchder. Nid yw John Jones, LL.D. yn ei "Hanesyddiaeth Cymru", na Meyrick yn ei "History of Cardiganshire" yn rhoddi darlleniad cywir o honi. Ni ŵyr Meyrick, ai wedi tori neu beidio y mae'r garreg, ac ni chynygia unrhyw ddehongliad.

Ysgrifena Prof. J. O. Westwood yn yr "Archaeologia Cambrensis" (series iii, vol. ii, page 143), fel hyn am deni—"Cerfiad Rhufain-Prydeinig. Y mae y llythyrenau wedi eu cerfio yn arw gan wahaniaethu mewn uchder o 2½ i 4 modfedd. Prif-lythyrenau Rhufeinig ydynt, o ffurf isel gyda minuscule b sengl yn y drydedd linell; y mae y ddwy lythyren FI ar ddechreu yr ail linell yn arddangos