Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffurf unedig gyffredin. Darllena yr holl gerfiad fel hyn: {{File:Hanes Plwyf Llandyssul (page 23 crop).jpg|300px|canol]]

VELVOR
FILIA
BrOhO

hyny yw, Velvor merch Broho.

A yw yn bossibl fod rhan o'r garreg ar y llaw ddehau i'r cerfiad wedi tori i ffwrdd, ac nad yw enwau y ferch a'r tad ddim i'w cael yma yn gyflawn? Gall rhai o'n haelodau-ynt yn hyddysg yn enwau arwyr ac arwresau boreuaf Cymru-fod yn adnabod o bossibl y ddau roddir yma, ac felly yn alluog i ddehongli y mater. Y mae Meyrick yn ei "History of Cardiganshire", (pl. iv, fig. 1), wedi crifellu (engrave) y garreg, ond nid yn gywir. Y darlleniad a roddir yno yw, VELVOR HLIM BRCHO. Y mae y ddwy lythyren unedig FI wedi eu camddeall am h a'r A yn y linell a groesa'r ongl wedi ei hystyried fel M. Y mae'r O yn nghanol y drydedd linell wedi ei chamgymeryd fel C, er fod ei ffurf grwn yn amlwg. Y mae yr enw BROHOMAGLI ar garreg Brochmail yn Pentrevoelas Hall, ger Bettws y Coed wedi awgrymu y sylw uchod.

Darllena Prof. Rhys, Rhydychen, y garreg yr un modd a Prof. Westwood, sef VELVOR FILIA BROHO. Tueddir Prof. Rhys i gredu fod y cerfiad yn gyflawn, ac nad yw yn ol pob tebygolrwydd lawer yn ddiweddarach na'r chweched ganrif. Y mae yr H yn BROHO yn gyfatebol i CH. Saif VEL yn VELVOR am VAL, ac arwyddoccâ y gair cyn-Geltaidd VALPA, Saesneg Wolf. Cydmarer y gair Teutonaidd Wolfwar a'r Saesneg Werewolf. Y mae i'r sill olaf VOR yr un darddiad a'r gair Cymraeg-gwr.

CESTYLL.

Castell Hywel. Saif yr hen gastell ar dir yr Esger, dyffryn Clettwr Fach. Ei enw cyntaf oedd Castell Hwmphre anturiaethwr Normanaidd oedd yr Hwm-