Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phre a'i hadeiladodd er mwyn goresgyn y wlad oddiamgylch, a chael noddfa iddo ei hun a'i ganlynwyr. Yn y flwyddyn 1136 O.C., yr oedd anghydfod yn ffynu yn Lloegr, felly ymadawodd â Chymru yr arglwyddi a ddaliasant eu hystadau o dan y brenhin a'r marchogion. Gan gymeryd mantais o'u habsenoldeb, darfu i feibion. Gruffydd ap Cynan, Tywysog Gogledd Cymru losgi y castell yn ogystal a chestyll Ystrad Meurig, Llanstephan a Chaerfyrddin. Rhwng 1137 a 1142 O.C. darfu i un o feibion Gruffydd, sef Owen Gwynedd ddilyn ei dad fel Tywysog Gogledd Cymru. Yn y flwyddyn 1150 O.C. adgyweirwyd y castell gan Hywel, mab Owen Gwynedd. Yn ol Brut y Tywysogion galwyd ef y pryd hwn yn Gastell mab Hwmphre. Ym mhen saith mlynedd, sef tranoeth i “Galan" Mehefin, 1157 O.C. darfu i Roger, Iarll Clare i 'storio y Castell, ac yn yr un flwyddyn gwnaeth Einon, mab Anarawd, brawd yr Arglwydd Rhys, “gwr ieuanc o oed a gwrol o nerth" ac yn gofidio oherwydd fod ei genedl wedi ei darostwng gan Harri yr Ail, Brenhin Lloegr, ymosodiad ar y castell, ac a laddodd y marchogion dewraf, a holl geidwaid y castell, a chariodd ymaith gydag ef holl" anrhaith," a holl "yspeil" y castell.

2. Castell Abereinon. Saif uwchben Capel Dewi. Yn ol Brut y Tywysogion", gwnaeth Maelgwn, mab Rhys, ef yn y flwyddyn 1206 O.C. Fe'i gelwir yn bresenol yn Cil-y-graig, ac nid yw yn awr ond tommen ffossedig (moated tumulus).

3. Castell Gwynionydd. Gynt, rhoddwyd yr enw Gwynionydd i'r holl ardal, yn neheubarth Sir Aberteifi, a gynnwysai yr holl blwyfi a ffinient ag Afon Teifi. Saif castell Gwynionydd, neu Coed Foel tua milldir o bentre Llandyssul, ar dir Faerdre Fach. Darfu i'r Tywysog Gruffydd ab Rhys ei gymeryd yn 1164 O.C., ac yn 1216 O.C., rhoddwyd ef trwy gyflafareddiad gan y Tywysog Llywelyn i Rhys mab Gruffydd, a rhoddodd yntau ef i Fynachdy Tal y Llychau. Y mae carreg lled fawr yn y cae sydd gyfagos i'r castell, oddiwrth yr hon, gelwir y cae yn Cae'r garreg.

4. Castell Gwilym. Saif ar dir Cwmmeudwy, gyfer-