Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byn ag amaethdy'r Castell, tua milldir o bentre Llandyssul.

5. Castell Cerdin. Gelwir ef hefyd yu Gastell Logyn. Saif ger Tregroes.

6. Castell Dinas Cerdin. Saif ar dir Dinas Cerdin yn Nyffryn Cerdin, bum milldir o bont Llandyssul. Dyma'r mwyaf o'r holl gestyll. Y mae mewn man rhamantus, ac y mae yr olygfa oddiarno yn hynod brydferth.

7. Castell Martin. Saif ger Afon Teifi yn agos i Bontlwni. Oddiarno ceir golwg ardderchog ar y man rhamantus lle saif Eglwys Llanllwni.

8. Craig Gwrtheyrn. Er fod y Graig ym mhlwyf Llanfihangel-ar-Arth, gan mai Afon Teifi yn unig a'i gwahana oddiwrth y plwyf hwn, bydd gair am dani yn ddyddorol. Dywed y "Trioedd " fod Gwrtheyrn yn un o dri charn feddwon Ynys Prydain; y ddau eraill oeddynt Geraint a Seithionyn Feddw ab Seithyn Saidi, Brenhin Dyfed. Cyfeiria Drych y Prif Oesoedd atto fel hyn:—

Gwrtheyrn a symudodd i Ddeheubarth, i làn Teifi; ac mewn lle anial ynghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiäu oedd y pryd hwnw mewn lle anghyfanedd ddigon, ym mhell allan o glybod a golwg y byd." Ychwanega y Drych y darfu i'r castell a phawb o'i fewn i gael eu llosgi yn ulw yn y flwyddyn 480 0.C.

9. Yn y plwyf y mae nifer o garneddau; (a) Ar dir y Camnant y mae carn o gerrig yr hon a agorwyd, a chafwyd ynddi grochan yn cynnwys lludw, yn ogystal a nodwydd ddur. (b) Yn Ngharnwen, ar dir Heol Feinog, cafwyd llestr pridd a gynnwysai weddillion dynol. (c) Ychydig islaw Alltyrodyn Arms y mae Rhyd Owen a enwyd yn ol pob tebygolrwydd oddiwrth Owen Gwynedd pan y talodd ymweliad a'r parthau hyn i ymosod ar Gastell Hwmphre. Gerllaw, saif Tommen Rhydowen. Ni wyddis yn iawn, ond tybir i Owen gladdu y rhai a laddwyd yn ei frwydrau yma. Un amser bu anedd-dy ar y Dommen, yn dwyn yr enw Castell Joab; cafodd yr enw oherwydd y darfu i ŵr dinôd o'r enw Joab un amser