Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyw ynddo. Y mae adfeilion yr hen dŷ i'w gweled yn bresenol. (d) Y mae carnedd ar dir Maesymeillion; a (e) Chaerau ar dir Blaencwm Cadifor, gelwir y cae, lle y saif yr olaf, Cae Perth (Porth ?) y Caerau.

BRWYDRAU.

Yn hen ysgrif-lyfr, a ysgrifenwyd gan y diweddar Silfanus Jones yr hynafiaethydd, ceir hanes dwy ymladdfa a gymerasant le yn y plwyf. Oddiwrth lyfr Mr. Jones y cymerodd Meyrick yr hanes sydd yn ei "History of Cardiganshire." Gan nad yw llyfr Mr. Jones ar gael yn bresenol, dyfynwn yr isod oddiwrth Meyrick. Efallai nas gellir dibynu yn hollol ar gywirdeb yr holl hanes, oblegid cyfansoddwyd ef wrth bob tebyg yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Y mae yr orgraph yr un fath ag a ddefnyddiwyd yn y ganrif hono. Dyma gopi o'r gwreiddiol yn yr un orgraph," Croniel y rhybhel a fu yn mhlwybh Llandyssil, yn gwlad Caredigion, neu Sir Aberteibhi, O.C. 1131, Ebrith 5d. Gwlad hi gwlad Caredigion, oblegid i Maelgwn Gwynedh ei rhoddi i garedig ei Fab yn Etibhedhiaeth; Ond yn amser y rhyfel hwn yr oedh hi tan Lywodraeth Deheubarth; A Dafydh ab Owain, Tywysog Gwynedh, a Lhewelyn âb Jorwerth, Tywysog Deheubarth oedhynt eilh dau yn honni hawl yndhi, ac myned mewn Lhîd-i'w Gilydh a wnaethant; ond gwyr Dyffryn-Clwyd o Wynedh, a gwyr Ystrad Tywy o Deheubarth a'u cynghorodh hwy i hedhychu a'u gilydh; Llewelyn âb Iorwerth, Tywysog Deheubarth, a Dabhydh âb Owain, Tywysog Gwynedh a appwyntiasant gyfarfod yn Abarystwyth; A Lhewelyn ab Iorwerth Tywysog Deheubarth, aeth i fyny, a chydag ef Ddegarugaint o farchogion Ystrad Tywy, Ddegarugaint o farchogion Sir Benfro, ac o wlad Caredigion Ddegarugaint; Buont yno ddau dhydh ond methu. Cyttyno o wnaethant ar ammod Hedhwch, ond Rhyfel; Ond hwy appwyntiassent Gyfarfod a'u gilydhi ryfel ar fan o'r Dhaiar, sef Bangé Ffoes Dhû yn i mhlwyf Llannarth yn Sîr Abarteifi; A Dhabhydb a dhaeth i'r man; ond Llhewelyn, Tywysog Ddeheubarth, a safodh ar y ffordh mewn man a elwir Blaengefel; Yno gwnaeth ymdhifyniaid a elwir Caergefel, hyd hedhyw; Ond Tywysog Gwynedh a dhaeth trwy gyfarwydhyd, i gyfarfod ag ef yno, a