Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gar i ymdhyffyn ac i gadw eu Trysor............ Cetera desunt.-Anon.

Rhoddwn yn awr feirniadaeth Meyrick ar yr uchod.—'(1) Ni chafodd Ceredigion ei enw oddiwrth MaelgwnGwynedd, ond oddiwrth Ceredig, mab yr enwog Cunedda. (2.) Dywedir uchod fod y frwydr wedi cymeryd lle yn 1131: yn awr ni etifeddodd Dafydd ab Owain dywysogaeth Gwynedd hyd y flwyddyn 1170, ac ni chafodd Llewelyn ab forwerth, ei nai, unrhyw feddianau yn Ngwynedd hyd dreigliad 24 mlynedd ar ol hyny, a'i feddianau yn Neheudir Cymru lawer yn ddiweddarach.

Ynghylch yr ail frwydr, ymddengys yn rhyfedd y cyfeirir at "un Einion", oblegid rhaid ei fod yn wr o bwys i gael "rhwng chwech a saith mil o wyr traed, a chwechant o wyr meirch" oddiwrth Rhys ab Owain. Yn awr, yr oedd Einion ab Collwyn, Arglwydd Dyfed, yn byw tua'r flwyddyn 1188, ac Einion ab Cadwgan, Tywysog rhan o Powys a fu farw yn y flwyddyn 1121, felly nis gallai fod y naill na'r llall o honynt, neu ni allai y rhyfel gymeryd lle yn y flwyddyn 1250. Er hyn, dyma'r unig ddau ryfelwr enwog o'r enw Einion. Yn olaf, cafodd Rhys ab Owain ei ladd yn y flwyddyn 1075, gan Trahaiarn ab Caradog.

Efallai, pe trawsosodid dyddiadau y ddwy ymladdfa, ymddangosai y chroniclau yn fwy gwirioneddol, ond arddengys yr iaith a ddefnyddir pa bryd yr ysgrifenwyd hwynt, felly, ni wasanaethant ond fel traddodiadau. Nid oes angen i mi ond nodi fod y gair "appuntiassent" o ddyddiad diweddar, ac o darddiad Saesneg.'

SIARTR FRENHINOL YNGHYLCH DARN O'R PLWYF.

Yn y Siartrau Brenhinol a gafwyd o "Swyddfa Cofnodion", Llundain, gan J. R. Daniel-Tyssen, Ysw., F.S.A., ac a olygwyd gan Alcwyn C. Evans, Ysw., Caerfyrddin, cawn fod darn helaeth o blwyf Llandyssul yn perthyn un amser i Fynachdy Tal-y-llychau. Rhoddwn gan hyny ychydig hanes o'r Mynachdy, ynghyd a rhan o'r "Patent Roll," 5ed Edward III, mor belled ag y mae a fyno a'r