Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hefyd, darllenwn yn y "Valor Ecclesiasticus" fod y Faerdref yn cael ei gyssylltu â Brechfa Gothi am y swmo 9 swllt yn flynyddol i'r un sefydliad. Wele'r dyfyniad o'r llyfr olaf:— "Feod' et in consimili feodo ballivoru de Enstade Brechnagothy et Vaerdre per annu IXs." Naturiol yw gofyn beth feddylir wrth "Grangea" a "Commortha"? Y "Grangea" neu grange oedd dŷ neu fferm, nid yn unig lle y cedwid llafur, ond hefyd ystablau i geffylau, llefydd i ychain, tylcau i fôch, a phethau eraill angenrheidiol i amaethyddiaeth. Yr oedd y Grangerus neu geidwad y "Grange" yn swyddog o dan sefydliadau crefyddol, megis Ceidwad y Faerdref dros Talyllychau.

Y mae "Commortha" yn gyssylltiedig a'r gair Cymraeg "cymhorth," a golyga gyfraniad. Gwaharddwyd y cyfryw yn Nghymru gan stat. 4, H. 4, c. 27; 26, H. 8, c. 6, er mwyn rhwystro ffurfiad cydfradwriaethau yn Nghymru trwy fod y bobl yn tyru at eu gilydd. Casglwyd y "cymhorth" mewn priodasau, a hefyd pan fyddai Offeiriaid ieuainc yn canu eu mass cyntaf, ac ambell waith er mwyn cael rhyddhad oddiwrth lofruddiaethau neu ladradau. (Gweler "Cunningham's Law Dictionary, vol. I.") Yr oedd "commortha" y Faerdref yn naturiol yn myned i Offeiriaid ieuaine Mynachdỳ Talyllychau. Wele'r Siartr:—

"Patent Roll," 5ed, Edward III, O.C. 1331, rhan 3, is-adran 2:

I Abad a Mynachdy Talyllychau:—

Y Brenhin at bawb, &c.Anerch.——Yr ydym wedi "archwilio Llythyrau Patent yr Arglwydd Edward o 'goffadwriaeth ogoneddus, ein Tad, y diweddar Frenhin Lloegr, yn y geiriau hyn :—

Edward, trwy ras Duw, Brenhin Lloegr, Arglwydd "Iwerddon, a Duc Aquitaine, at bawb dderbyniant y llythyrau hyn.—Anerch:

"Rhodd, anrheg, a chadarnhad o'r hyn roddodd Rhys