Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fychan,[1] mab Rhys Fychan[2] yn ei Siartr a wnaed fel "elusen bur a pharhaol i'r Abad (Abbot) a'r Mynachdy a wasanaethant Dduw a'r Fair Fendigaid a Sant Ioan yn Nhalyllychau, o'r holl diroedd, meddiannau, porfeydd, Rhenti, Eglwysi, Breintiau a'r pethau a roddwyd iddynt yn Nhalyllychau gan Rhys Mawr,[3] a Rhys, Tadcu y Rhys Fychan dywededig, Ewyrthod, Cefnderwyr neu Berthynasau yr un Rhys, neu, a roddwyd neu ewyllysiwyd gan Urddasolion y tir i Dalyllychau, sef......yn "Ngheredigion, Porthothin[4] yn yr hen gyffiniau, y Faerdref[5], Rhydowen,[6] Nantcadifor[7], Bryneyron,[8] Cynbyd,[9] Moelhedawg,[10] gyda'r Melinau, a holl dir pori y

  1. Rhys Fychan a fu farw yn Nghastell Dynefor, Awst 27, 1271, ac a gladdwyd yn Mynachdy Tal—y—llychau.
  2. Tad Rhys Fychan. Gelwid ef Rhys Mechyll. Bu farw 1244. Yr oedd yn fab i Rys Gryg, Arglwydd Ystrad Tywy, yr hwn yn 1219 a briododd a merch Risiart, Iarll Clare, ac a fu farw yn Llandeilo Fawr, a chludwyd ei gorph i'w gladdu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
  3. Rhys Gryg oedd fab i Rhys Mawr neu yr Arglwydd Rhys, yr hwn a fu yn Dywysog Deheudir Cymru yn 1136. Priododd a Gwenllian, merch Madog ab Meredudd, Arglwydd Bromfield, a bu farw Mai 4ydd, 1196, a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
  4. Porthothin. Ymddengys mai hwn yw y Borthin. Ar dir Blaenborthin y safai Capel Borthin, a Chapel Waunifor yn bresenol, (gwel Pennodau v a vi.)
  5. Faerdref.—Ardal y Beili. Y mae dwy Faerdref, sef Faerdref Fawr a Faerdref Fach Ffiniant a'u gilydd. Safant tua milldir y tu gogledd—ddwyreiniol i bentre Llandyssul.
  6. "Rhydowen.—Saif islaw Alltyrodyn Arms, tua 4 milldir o bentre Llandyssul. Cafodd yr enw oherwydd i'r Tywysog Owen o Wynedd groesi y rhyd yn 1137. Ceisia rhai wneyd Rhed Owen o'r gair. Nid oes galw am gyfnewid y Rhyd i Rhed.
  7. Nant Cadifor—Rhed y nant i Wenffrwd, yr hon darddai gynt mewn ffynon o dan Tri—chock, sydd yn awr wedi sychu; ei tharddiad yn bresenol yw Ffynon Lân ar dir Cwmmarch, ac a arllwysa i Deifi islaw tai Pontfach, Faerdre Fawr. Ar lannau y nant saif Blaen Cwm, neu yn llawn Blaen Cwm Cadifor.
  8. Bryneyron.—Rhed y Geyron i Glettwr yn nghae'r Pandy, ger palas Alltyrodyn, Bu melin ar ei glan un amser. Galwyd hi yn Felin Geyron, wedi hyny, Melin Newydd. Safai ar odreu tir Alltyrodyn, gerllaw Penbanc. Bu Pegi, merch y Parch. D. Llwyd, Brynllefrith, yn ei chadw.
  9. Cynbyd. Yn ddiamheuol dyma'r hen enw am Rhydycynyd.
  10. Y mae dwy Foelhedog yn bresenol, sef, Moelhedog ucha, a Moelhedog Isa