Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys dywededig......Hefyd, cadarnhad, yn ei Siartr, "o'r hyn wnaed gan Meredydd ab Owen[1] i'r un Abad a Mynachdy, o'r holl diroedd, eglwysi, a meddiannau a gawsant oddiwrth ei Dad, ei Dadcu, ei Hen Dadcu, neu ei Ewyrthod, neu Anrheg Mawrion eraill, neu Urddasolion Deheudir Cymru, fel elusen bur a pharhaol, yn rhydd o bob hawl arall i'w meddiannu, ac yn neillduol y tir a elwir Maerdref, Gwynionydd,[2] Bryneyron, Rhydowen, Nanteerdin, Cynbyd, Is—Allt. Cwmpasir hwynt gan y terfynau hyn:—O Abercerdin[3] yn Nheifi i'w tharddiad mor bell ag Abercefel; ar hyd Afon Cefel i'w tharddiad; ac o'i tharddiad yn groes i Flaen Pant y Moch[4]; Pant y Moch yn arwain i'r ffos; y ffos[5] yn arwain i Glettwr;[6] Afon Clettwr i'w chydlifiad[7] a'r Mene; y Mene i'w tharddiad yn Waun Rhydd;[8] oddiyno i'r ffrwd' tuag at y Brif—ffordd[9] a arweinia o Blaen Nant Cadifor; ac o'r ffrwd[10] i'r Ffordd hono, gan groesi y Ffordd i'r Waunfach; ac o'r Waunfach i Bwll-y-Blaidd; ac o'r Pwll yn union i flaen y Pantsych; a thrwy y Pant neu'r cwm sydd yn arwain i darddiad Nant Cadifor; gan ddisgyn gyda'r Nant i Aber y

  1. Meredydd mab Owen, mab Gruffydd, mab yr Arglwydd Rhys, amddiffynwr holl ddeheudir Cymru, a chynghorwr holl Gymru, a fu farw yn Llanbadarn Fawr yn y flwyddyn 1265, ac a gladdwyd yn Nghabidyldy (Chapter House) y mynachod yn Ystrad Fflur.
  2. Gwel castell Gwynionydd (tud. 12).
  3. Abercerdin yw'r man lle'r una Afon Cerdin a Theifi. Wrth y frawddeg, o Abercerdin i'w tharddiad", golygir Afon Cerdin o'i harllwysiad yn Nheifi i Abercefel.
  4. Blaen Panty moch.—Gelwir ef yn awr Pantmoch Bach.
  5. Ffos.—Yma y mae nant a elwir Rhydgaled, rhwng Pantiorlech a Pantmoch.Tardd yn ngodreu Pant Howel, ac arllwysa i Glettwr fawr.
  6. Sylwer fod o 3 i 5 yn arddangos rhan o'r ffin rhwng Uwch-Cerdin ac Is—Cerdin.
  7. Cydlifiad.—ar ddol Rhydowen Fach.
  8. Waun Rhydd.—Saif y ffynon sydd brif darddiad y Mene, yn nghae gwair fferm Pantydefaid, o dan tai Pant—y—gogledd. Rhed y dyfroedd a darddant ar dir Blaenmene heibio i'r ffynon hon, ac a arllwysant i'r Mene. Felly, y cae gwair uchod yw y Waun Rhydd, neu ran o honi. Ystyr Waun Rhydd yw Waun agored, neu Cwmin (Common).
  9. Brif-ffordd.—Yr hen ffordd o Lanbedr i Aberteifi. Nodir yn y fan yma yr heol o Flaen Pantycreuddyn i Gwmtywyll.
  10. Ffrwd.—Ar dir Coedfoel, dau led cae o'r hen brif-ffordd.