Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'give Jenkin Mdd (Meredydd) 12 wethers; James David Lloyd, 2 wethers; David Lloyd ab Thomas ap John, 2 wethers; William David Clerke, for his godly exhortations and paines, one wether. And, I appoint "Ellen V. William my residuary Legatee and executrix."

(2.) Will, made 12th Jan., 1596—7; Proved 24th Jan., 1596—7. ANDREAS AP RHYDDERCH, of Llandyssul, "Testator."

"Dyddgu, my wife, Walter Andreas my sonne and executor, John Andreas my sonne, I give William "Davids Clearke a sufficient weather."

Griffith ab Rhydderch one of the bondsmen."

MEINI LLAW—FELIN.

Yn mis Chwefror 1894, tra yr oedd John Rees, Cilgwyn Bach yn aredig yn y waun, daeth o hyd i faen llawfelin (quern), o ran ffurf yn grwn, gyda thwll yn y canol, ac un bychan ar yr ymyl. Mesura 19 modfedd o dryfesur, 4 modfedd o drwch ger y twll yn y canol, a 3 modfedd ar yr ymyl. Defnyddiwyd y llaw—felinau hyn gynt i falu ŷd. Yn amseroedd daliad tiroedd dan wriogaeth (feudal times) yr oedd yn anghyfreithlon i ddyn i'w mheddianu. Gorfodwyd y deiliaid gan weithredoedd perthynol i'r faenor (manor) i fyned a'r ŷd i'w falu i felin eu harglwydd, ac i dalu toll ar y cyfryw. Parhâ felly hyd heddyw ar y rhan o stâd Llanerch Aeron sydd yn y plwyf hwn, oblegyd gorfodir y deiliaid i fyned a'u hŷd i felin Rhydowen. Fel hyn yr oedd yn anghyfreithlon i'r deiliaid gadw llawfelinau. Pe y darganfyddid hwynt, celent eu tori, a'u perchenogion eu cospi, a dyna paham yn ol pob tebygolrwydd yr oeddynt fel rheol mewn gweunydd a llefydd dirgel. Yn y canol oesau yr oedd tri math o honynt: (1) Meini a chefnau cyfrwyol, yn cynnwys un garreg fawr, ar wynebedd uchaf yr hon oedd gafniog, gyda maen llai i falu'r ŷd. (2) Maen morter (mortar quern). Ni wyddis a oedd y pestl o ddefnyddiad carreg neu fetel. (3) Maen Crochan. Dyma'r mwyaf perffaith hyd ddarganfyddiad y malwyr metel; yr oedd y blawd yn rhedeg allan trwy dwll yn yr ochr, a throai y garreg oddiamgylch mewn mortaîs. (Gwel Law's History, tudalen 159).