Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HEN BONT, LLANDYSSUL.

Safai yr hen bont ar y ffin rhwng plwyfi Llandyssul a Llanfihangel-ar-arth, yn yr un man a'r un bresenol. Yr oedd iddi dri bwa a dau bentan (breakwater). Yr oedd y pentannau o ffurf y lythyren V, a medrai dynion fyned mewn iddynt er dianc rhag certi ac anifeiliaid. Tynwyd y bwa nesaf at Sir Gaerfyrddin i lawr er mwyn rhwystro milwyr Oliver Cromwell i'w chroesi, y rhai a ddefnyddiasant eu cyflegrau i'w dinystrio; a phan ail-adeiladwyd y bont, cafwyd ar ddydd Llun, Mehefin y 19eg, 1837 fwled o saith pwys yn y bwa canol. Bu y bwled ym meddiant Edward Evans, Siop y Bont, am flynyddau. Croesodd y milwyr ryd yr afon wrth ben gored y "Wilke's Head," a galwyd y rhyd oddiar hyny yn "Rhyd y Milwyr." Pan glywodd Llwyd, o Blas Faerdref Fawr, fod y milwyr wedi croesi'r afon, torrodd ei wddf ag ellyn. Yn y flwyddyn 1782 cafodd y bont ei handwyo yn ddirfawr gan lifogydd mawrion, ond ni syrthiodd.

Yn mis Mehefin 1837 dechreuwyd ail-adeiladu y bont bresenol.

HEN GERFIAD.

Uwchben drws ystabl Alltyrodyn Arms" ceir y cerfiad hwn:

Sic siti laetantur equi"

hyny yw : Yn y fath sefyllfa y ceffylau lawenhant.

PEITHYNEN.

Yn y Ficerdy ym meddiant y Parch. W. G. Jenkins, y Ficer, y mae Peithynen 17 modfedd o hyd a 15 o lêď. Darn o bren ydyw. Defnyddid hi gynt fel cyfrwng i drosglwyddo cân o serch neu lythyr caru rhwng cariadon a'u gilydd. Yr oedd y gân yn cael ei "thori ar y pren, a defnyddid bob amser hen lythyrenau Cymraeg a elwid "Coelbren y Beirdd."

HEN FIBL.

Y mae gan Mr. Jenkins hefyd gopi o Fibl Cymraeg Dr. Morgan a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1588.