PENNOD IV.
PENTRE LLANDYSSUL.
SAIF y pentre yn y rhan ddeheuol o'r plwyf, ar dir llethrog gerllaw Afon Teifi. Gerllaw i'r pentre, ar y tu dwyreiniol, saif Gallt Dol-llan yr hon a rydd i'r ardal brydferthwch arbenig. Ar waelod y pentre y mae Pont Tyssul, yr hon a gysyllta blwyfi Llandyssul a Llanfihangel-ar-Arth. Y mae y pentre yn 248 o filldiroedd o Lundain, 14 o Aberystwyth, 18 i'r dwyrain oddiwrth Aberteifi, 18 yn ogleddol o Gaerfyrddin, a 42 i'r gogleddorllewin o Abertawe. Y mae tua 200 o dai yn bresenol yn y pentre, ac ychwanegir at eu nifer yn barhaus. ystod y canol oesoedd yr oedd y rhan fwyaf o'r tir, yn, ac oddiamgylch y pentre, yn perthyn i'r teulu a adnabyddid yn ddiweddarach fel Llwydiaid Cilgwyn. Gan mai C. H. Ll. Fitzwilliams, Ysw., o Gilgwyn, Castellnewydd Emlyn, yw perchenog presenol y rhan fwyaf o'r tir lle y saif y pentre, nodwn yma sut y daeth y stâd i feddiant ei deulu.
Tua'r flwyddyn 1760, yr oedd dau gapten llong yn cydgerdded un diwrnod ym Mhlymouth, yn dra isel eu hysbryd, oherwydd iddynt golli eu llongau, ac nad oedd ganddynt foddion i brynu rhai newyddion. Capten Thomas Lloyd o Gilgwyn oedd un o honynt, a'r llall oedd dad i dadeu y Mr. Fitzwilliams presenol, sef Capten (ar ol hyny "Admiral") Brathwaite, o Warcop, yn swydd Westmoreland. Yr oeddynt yn hen gyfeillion, ac wedi gweled llawer brwydr galed gyda'u gilydd. Cyttunasant i "dosso," er cael gweled pa un ddylai werthu ei dreftadaeth, neu gymaint o honi ag oedd yn angenrheidiol i brynu dwy gadlong. Collodd Capten Brathwaite y "toss," ac archodd ei berthynas, Cuthbert Collingwood, i werthu ei stâd yn Warcop. Yna rhanodd hi rhwng ei gydforwr