Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.

YR EGLWYS A'I CHAPELI.

I. Y Fam-Eglwys.
II. Capeli o dan y Fam-Eglwys
(a) Capel Llanfraed.
(b) Capel Llandyssulfed.
(c) Capel y Faerdref.
(d) Capel Llanfair.
(e) Capel Dewi.
(f) Capel Borthin.
III. Y Fam-Eglwys bresenol.
IV. Capeli o dan y Fam-Eglwys bresenol—
(a) Eglwys Sant Ffraed.
(b) Eglwys St. John neu Ioan.
(c) Eglwys Sant Dewi.
V. (a) Rheithorion, (b) Ficeriaid, a (c) Churadiaid y Plwyf.

I. Y FAM-EGLWYS.

Y mae tri dosbarth o sefydliadau eglwysig yn bod ar y cyffredin. Y cyntaf, Eglwysi cyflwynedig i Seintiau Cymreig neu Wyddelig, o'r flwyddyn 500 i 800. Yr ail, Eglwysi cyflwynedig i Sant Michael a rhai o'r Apostolion, o'r flwyddyn 800 i 1000; a'r trydydd, Eglwysi cyflwynedig i'r Santes Fair a Seintiau is-raddol, o ddechreu y 12fed ganrif ym mlaen.

Perthyna Eglwys Llan Dyssul i'r dosbarth blaenaf.

1. Sylfaenwyd hi yn y chweched ganrif gan Tyssul, felly gelwir hi yn Llan neu Eglwys Tyssul. Yr oedd Sant Tyssul yn fab i Corun ab Ceredig ab Cunedda, yn