Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frawd i Caranog, sefydlydd Eglwys Llan Granog, ac yn gefnder o du ei dad i Dewi Sant. Heblaw yr Eglwys hon, sefydlodd Eglwys arall ym Mhowys. Cedwid ei wyl ef Ionawr 31ain. Ni cheir dim hanes pellach am yr Eglwys hyd amser Harri y 3ydd, pan y darfu i Anselm le Gros (a wnaed yn Esgob Tyddewi yn y flwyddyn 1230) ei rhoddi, ynghyd ag Eglwysi eraill, i Ganoniaid Tyddewi. Yn y flwyddyn 1259 gwahaniaethwyd am y tro cyntaf rhwng Canoniaid Trigianol a Chanoniaid Anrhigianol Tyddewi, pan y darfu i Richard De Carew gadarnhau rhodd Anselm o Eglwys Llandyssul ac Eglwysi eraill i'r Canoniaid Trigianol. Cawn oddiwrth goflyfrau yr Eglwys Gadeiriol, y darfu i'r hawl i nawddogaeth Eglwys Llandyssul yn fuan iawn achosi llawer o ymryson. Yn y flwyddyn 1272 cafodd dirprwyaeth ei happwyntio i ddyfarnu rhwng y Côr Offeiriadol (Chapter) a Griffith ap Meredydd ynghylch pwy oedd Noddwr Cyfreithiol yr Eglwys. Ar y pryd hwnnw dyfarnwyd yn ffafr y Côr Offeiriadol, ond darfu i Esgob Carew adferu yr hawl i'r nawddogaeth i Griffith ar y telerau fod y Rheithor i dalu ugain marc yn flynyddol i'r Canoniaid Trigianol, a bod y Ficer i gael ei appwyntio i dderbyn y drydedd ran o'r cyllid, Am yr 21 mlynedd nesaf, ffynai tawelwch parth yr hawl i noddi, ond ail-ddechreuodd yr ymryson ar farwolaeth Beck yn 1293. Yn union ar ol marwolaeth Beck, cafodd David Martin, disgynydd oddiwrth Martin de Turribus, ei ethol yn Esgob gan y Côr Offeiriadol, a hyny gyda chaniattad y Brenin. Darfu i appel yn erbyn ei etholiad gael ei wneyd yn Llys y Pab, a bu y mater mewn dadl am ryw dair blynedd. Yn ystod yr amser hwn ysgrifenodd Edward laf, y Brenin, lythyr yn Awst 1295 yn ffafriol i gymeriad Martin. Dyfarnodd y Pab yn ffafr Martin, a chyssegrodd ef yn 1296. Er hyn ni therfynodd y ddadl, a pharhaodd y pwnc o nawddogaeth yr Eglwysi i gael ei drin am flynyddau. Yn y flwyddyn 1305 gwnaed ymholiad arall i nawddogaeth Eglwys Llandyssul, a chafwyd ei bod ar y pryd ym meddiant Llewelyn ap Owen, ond yr oedd y swm flynyddol o 20 marc wedi ei thalu yn rheolaidd. Yn y flwyddyn 1355 gwnaed ymholiad pellach.