Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2. Cyn diwedd y 13eg ganrif cawn i Eglwys Llandyssul gael ei threthu gan y Pab Nicholas y IV. Yn nheyrnasiad Edward y laf, sef yn 1291, darfu i'r Pab Nicholas y IV awdurdodi "Taxatio Ecclesiastica," hyny yw, Treth ar holl fywioliaethau Lloegr a Chymru er mwyn cario allan Groesgad. Gosodwyd y dreth hon pan yr oedd amaethyddiaeth mewn cyflwr isel iawn, oherwydd stâd gyffrous y wlad. Cyhoeddwyd yr ysgrif a rydd hanes cyflawn o'r dreth gan Ddirprwyaeth y Cofnodion yn y flwyddyn 1802. Y mae y llyfr hwn yn wir bwysig, am y darfu i'r holl drethoedd dyledus i'r Breninoedd, yn ogystal a'r Pabau, gael eu rheoleiddio oddiwrtho hyd y cyfrifiad (survey) a wnaed yn y chweched-flwyddyn-arhugain o deyrnasiad Harri yr 8fed, sef 1535. Enwir Eglwys Llandyssul ynddo fel " Ecclia de Llandessel." Yr oedd cyllid (income) y fywioliaeth y pryd hwnw yn £20. Dywed Hallam yn ei "Middle Ages, III, 448" fod arian yn 1291 yn bum gwaith ar hugain yn fwy gwerthfawr na phan yr ysgrifenai efe, sef yn 1818. Rhoddwn yma gyllid holl fywioliaethau Deoniaeth Is-Aeron er mwyn cydmaru Llandyssul a'r plwyfi cylchynol. Medr y deallus adnabod y rhan fwyaf o'r Eglwysi:—

Taxatio Ecclesiastica P. Nicholai

Menevens Dioc.

Taxacio Eccl'iar Archid'atus De Kardygan Decanatus de Subayron.

Ecclia de Landenwybrevi £16 0 0
Ecclia de Lampede £5 0 0
Ecclia de Landgeynokl £5 0 0
Ecclia de Landessel £20 0 0
Ecclia de Lankenlan £5 6 8
Ecclia de Lantheveryok £4 6 8
Ecclia de b Trefduher £8 0 0
Ecclia de Landegey £8 0 0
Ecclia de Landlordman £6 0 0
Ecclia de Kardygan £13 6 8
Ecclia de Berwik £4 0 0
Ecclia de Penbryn £16 0 0
Ecclia de Gogoffe £5 6 8
Porcio Canonicor ' de Thaleleken ind ab'a de Langoydmaur £2 0 0
Porcio de or Canonicor' de(e) Blaynaunerbigh £1 6 8
Ecclia de Landesylan £5 0 0
Ecclia de Estt £5 0 0
Ecclia de Lannarth £6 13 4