Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mehefin yr 2il. Yn erbyn gweddi y ddeiseb hon, danfonwyd deiseb arall, wedi ei dyddio Awst 20fed 1647, gan Capten Thomas Evans. Difynwn hi:—"Y mae John Williams, Person (Incumbent) Llandyssul, Sir Aberteifi, yn ol y gyfraith wedi ffermio elw y Rheithoriaeth i'r Deisebwr ac eraill, ond ym mis Mai diweddaf, cafodd Walter Bowen ei anrhegu a'r Rheithoriaeth, a sicrhaodd orchymyn oddiwrth y Senedd iddo gael ei gyflwyno a'i sefydlu ynddi, fel pe bae yn wag trwy farwolaeth Williams, er ei fod yn fyw. O dan yr esgus hwn, y mae goruchwylwyr Bowen wedi ceisio casglu y degwm, ac ar ddeiseb David Ouchterlong, wedi sicrhau gorchymyn i attafaelu y deisebwr fel dirmygwr gorchymynion eu harglwyddi, pan na wyddai ddim am danynt. Hefyd, gall Bowen, os oes ganddo unrhyw hawl i'r fywioliaeth, sicrhau y cyfryw trwy gwrs arferol y gyfraith. Y mae y Deisebwr, yr hwn sydd Aelod o'r Pwyllgor dros Sir Aberteifi a Siroedd Penfro a Chaerfyrddin, am yr hwn y gofynir ar unwaith yn y sir, yn deisyf cael ei ryddhau o'r attafaeliad."

A'r ddeiseb cyssylltir ardystiad Richard Robert ar lw fod John Williams, a gyfrifir yn Berson Llandyssul, yn fyw ac yn iach ar y 25ain o Fehefin diweddaf. Dyddiedig Awst yr 2il, 1647.

Pasiodd y Rheithoriaeth i ddwylaw y Parch. T. Pritchard, yna i Iarll Suffolk, ac oddiwrtho ef i'r Harrisons, oddiwrth pa rai y pwrcaswyd hi gan Syr Leoline Jenkins, gan yr hwn y trosglwyddwyd hi mewn ymddiriedaeth i Brif-Athraw a Chymrodion Coleg yr Iesu, Rhydychen, ar yr 2il o Orphenaf 1680.

5. Yn ystod y 17eg ganrif yr oedd gan y Fam Eglwys, sef Eglwys y Plwyf, chwech o gapeli yn y plwyf, sef Llanfraed, Llandyssulfed, Faerdref, Llanfair, Capel Dewi a Chapel Borthin.

66

Yn un o'r llyfrau sydd yn y "Diocesan Registry," Caerfyrddin, gwelsom nodyn gan David Davies, "Licensed Curate," dyddiedig Sept. 3rd, 1785." Ysgrifena am danynt fel hyn :- There are small remains of five ruinated chapels within the parish, viz.: St. Marie's, St.