Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

David's, St. Martin's, St. Sulred's and St. Wynyfryd's. No service is performed in any of them."

II. CAPELI O DAN Y FAM-EGLWYS.

(a.) LLANFRAED. Safai yr hen Gapel ar dir DyffrynLlynod, yn nyffryn Cerdin, mewn cae a elwir yn bresenol "Cae'r Capel." Aethai o dan yr enw Llanfran yn Nghofrestrau y Plwyf yn 1720, ond os yr edrychwn ar Ddarlunlen Speed yn 1610, gelwir ef yno yn Llanfra. Yn Narlunlen Kitchin, yn ddiweddarach, cawn yr enw Llanfrai. Y dybiaeth yw fod y capel wedi ei gyflwyno i Sant Ffraed, a adnabyddir yn gyffredin fel Sant Bridget neu St. Bride. Nid oes dim llai na 18 o gapeli wedi eu cyflwyno iddi yn Nghymru. Yn ol Llyfr Bodeulwyn, merch ydoedd i Cadwrthai Gwyddel, ond y mae ysgrifau eraill yn dweyd ei bod yn hanu o deulu Albanaidd (Scotch), a'i bod yn ferch i Davyppws ab Cefyth neu Dwp Dagws. Yn ol bywyd llatinaidd y sant, dywedir mai Gwyddel oedd Dubtachus, ac y ganwyd Sant Ffraed yn Fochart, Sir Lowth. Gesyd Archesgob Lowth ei genedigaeth tua'r flwyddyn 453. Bu farw tua O. C. 525. Cedwid ei dydd Gwyl Chwefror y laf.

Oddiwrth ysgrif-lyfr Jacob Thomas, Cribor Fach, tadeu y diweddar John Thomas, Ffactri Crugeryr, Talgarreg, cawn mai yr olaf i bregethu yn y capel oedd y Parch. Thomas Griffiths, Ficer Llandyfriog, a'i destun oedd rhan o'r 8fed adnod o'r bennod gyntaf o Ail Thessaloniaid, "Gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist." Yn y gwasanaeth canwyd y pennill hwn:

Rho lwyddiany i ni dannu Rhwyd
Yng Nghapel Llwyd Llanfrên
Os drychu arnom yn dy wg
Rho olwg ar dy wen

Yr oedd rhyw fardd yn y gwasanaeth, ac ar y diwedd, dywedodd wrth Sian Ffoshelyg fel hyn :