Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Sian Ffoshelyg dewch a bwyd
I Gapel llwyd Llanfrèn,
A chwithau Nansi, dewch i'r lan
A succan lond y stên."

Nid yw dyddiad y gwasanaeth yn cael ei roddi, ond oddiwrth Gofrestrau y Plwyf cawn fod y Parch. Thomas Griffiths yn priodi David Davies, Clerk, Llandyssul, a Sara Lewis, Tachwedd yr 21ain, 1789.

Y mae dwy garreg sticyll y fynwent ar gael yn awr. Y mae un o honynt—carreg wen yn pwyso tua 15 cant o bwysau—ger y glwyd gyntaf, eir drwyddi o dy y Rock i'r fynwent; a'r ail—carreg lwyd tua 5 neu 6 cant o bwysau ger yr ail glwyd.

Nid yw Cofrestrau y Plwyf yn nodi pwy gladdwyd yn y fynwent. Nid oedd y fynwent wedi ei huno a'r cae yn y flwyddyn 1834, oblegid ganwyd D. Lewis, Pantygwybed, yn 1829, a symudodd ei deulu i Landyssul yn 1834, a thystiai ef iddo chwareu ynddi pan yn llencyn. David Davies, Dyffryn Llynod, tad y Dafisiaid presenol, arddodd y fynwent, ac y mae ei feibion, sef Thomas, John, Dafydd, ac Evan wedi claddu yr esgyrn gawsant, mewn un pwll gerllaw y lle yr oedd y gangell. Gwyddom am dri wedi eu claddu ynddi, y 1af oedd ewythr D. Lewis, Pantygwybed, ar dir Gellifraith; yr ail, chwaer Dinah, Blaenewm Fforest; a'r 3ydd, sef yr olaf a gladdwyd yma, oedd Catherine, merch ieuangaf James a Catherine Thomas, Castell Login, tua'r flwyddyn 1800. Dywedai chwaer y plentyn gladdwyd, yr hon fu farw yn 83 oed, 20 mlynedd yn ol, i'w chwaer gael ei chladdu pan yr oedd hi yn blentyn yn bugeilio. Byddai hi yn 7 mlwydd oed yn 1800.

(b.) LLANDYSSULFED. (Saint Sylvester.) Safai y Capel hwn yn nghae Capel Issa,[1] ar dir Penyrallt, tua lled cae uwchlaw Cwrtygwybed, yn Nyffryn Clettwr Fawr. Yn 1610, y mae y capel yn Narlunlen Speed fel hyn: "Capel Llantysilfed"; ac yn Kitchin cawn ef "Capel Llantisfed." Yr oedd y Parch. D. Davies yn 1785, yn ei alw yn "Sulred." Ei enw cyffredin yw "Capel Sant Sylfed."

  1. Geilw Mr. E. Thomas y cae yn bresenol, Cae Sulfed.