Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae un cyfeiriad at y Capel yn Nghofrestrau y Plwyf o dan benawd y bedyddiadau, fel y canlyn:—"1727 8ber 2nd, John son of Thomas Evan Capel St. Silfed." Claddwyd yn y fynwent hyd tua 1780. Yr olaf ond un i gael ei gladdu yma, oedd brawd Tomos Dafydd Daniel; a'r diweddaf gladdwyd, oedd mab Rachel Moses, yr hon oedd yn trigianu tua Penrhiw, Llanwenog. Evan Jones, Cwrtygwybed, wastododd tir y fynwent. Symudodd ymaith y cerrig sylfaen, ac y maent yn awr yn y mur o flaen ty Cwrtygwybed, ac ym mur y Pistyll. Dywedodd David Davies, Penyrallt, wrth ei ferch (sef mam Mr. W. James, B.A., Llandyssul), iddo glywed pobl yn dweyd i'r angladd ddiweddaf basio trwy gae llafur i'r fynwent. Cofia Mrs. James yn dda am un garreg fedd a cherfiad arni.

(c.) Y FAERDREF. Yn ol traddodiad, bu Priordy un amser yn y Faerdref, ond er chwilio trwy Douglas's Monasticon Anglicanum" yn y "Royal Institution," Abertawe, methasom weled unrhyw gyfeiriad ynddo at un Priordy yma. Y mae tri o awdurdodau i brofi fod Eglwys wedi bod yn y Faerdref. (1.) Rees's "Essays on the Welsh Saints." Ynddo nodir fod Capel wedi bod yn y Faerdref. (2.) Yn Nghofnodion Festriau y Plwyf o 1758 i 1789, cawn fod y Plwyf yn 1758 yn cael ei ranu ir Fam—Eglwys a chwech arall. Y Faerdref yw un o honynt. (3.) Yn ol traddodiad yn y Plwyf, yr oedd yr Eglwys ar dir Faerdref Fach, gerllaw Castell Coedfoel neu Gwynionydd, yn y cae a elwir "Cae'r garreg.”

(d.) LLANFAIR. Safai y Capel hwn ar y ddôl islaw plâs Llanfair. Cyflwynedig ydoedd i'r Forwyn Fair. Nid oes dim o'i olion i'w canfod yn awr. Pan arddwyd y ddôl, darfu i Thomas Jones, tad Henry Jones, Gof, Llandyssul, ddyfod o hyd i allwedd drws y Capel, yr hon sydd yn bresenol yn meddiant ymddiriedolwyr Ystâd Llanfair. Gynt yr oedd carreg gerfiedig yn y sticyll a arweiniai i'r ddôl, y tu nesaf at Landyssul i'r Plas. Er chwilio yn ddyfal am deni methasom ei chael. Weithiau adroddir fod y sticyll y tu uchaf i'r Plâs o Landyssul yn arwain i'r Capel. Nid yw hyn yn gywir, am mai yn ddiweddar y gosodwyd hi yno. Yn Nghofrestrau y Plwyf ceir tri