Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bowen i ofyn i'r Eglwyswyr a fwriadent ail—godi y Capel. Pan attebwyd ef yn naccaol, cafodd ganiattad ganddynt i symud cerrig yr adeilad, a defnyddiodd hwynt i adeiladu hen Gapel Waunifor, yn 1760. Cynhaliwyd ffair Fartin yn nghae y fynwent ar yr 21ain o Dachwedd am flynyddau, ond symudwyd hi i Lanybyther. Nid oes un cyfeiriad yn Nghofrestrau y Plwyf at Gapel Borthin.

III Y FAM—EGLWYS BRESENOL.

Y mae yr adeilad presenol, mewn arddull Saesneg cynar, yn un eang a hardd yn ymyl Afon Teifi. Cynnwysa bedair adran: (1.) Y corph (nave); (2.) Y ganghell; (3.) Y ddwy rodle ochrawl; a (4.) Twr ysgwâr. Gwahanir corph yr Eglwys oddiwrth y rhodleoedd ochrawl gan golofnau ysgwâr wedi eu gwneyd o fân gerrig garw heb foldiad neu rhych, cyssylltiedig gan fwäau pwyntiedig. Yn y rhodle ochrawi ddeheuol, yn agos i'r twr, gellir gweled ysmotyn lle yr oedd ffenestr fechan a arddengys henaint anghyffredin. Yn yr un rhodle, ond yn agos i'r ganghell, y mae "squint " yn arwain i'r ganghell, trwy yr hon y medrir gweled ochr ogleddol yr Allor. Yn ol y diweddar Mr. Middleton, Archadeiladydd, Cheltenham, y mae y bwa yn y ganghell yn cyfatteb i'r un yn y twr, ac uwchlaw y ddau fwa y mae llinellau yn arddangos tô isel. Ym mur ddwyreiniol corph yr Eglwys, y mae grisiau yn arwain i Rood Loft," a thwll eang yn y mur ger y pwlpud. Cliriwyd y grisiau hyn, er mwyn arddangos y fynedfa i'r loft, gan y Parch. W. G. Jenkins, y Ficer presenol, pan adferwyd yr Eglwys yn 1874. Defnyddiwyd y loft hon i gadw y groes neu rood, a delwau, yn fwyaf neillduol eiddo y Forwyn Fair a Sant Ioan. Nid oeddynt yn cael eu defnyddio yn Eglwys Lloegr cyn y 14eg, neu y 15fed ganrif, ac ni ddefnyddiwyd hwynt ar ol Amser y Diwygiad. Y mae y pwlpud yn un hynod dlws, wedi ei gerfio yn brydferth dros ben. Ei ddefnydd yw Carreg Caen. Y mae ffigwr Sant Paul yn pregethu yn yr eilunfa ganol sydd ynddo. Anrheg ydyw i'r Eglwys gan y diweddar Gapten D. Thomas, Llanfair.