Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar odreu tudalenau cyntaf y Cofrestr, cawn ar ol y marwolaethau, "All in Wool." Dyma'r esponiad :Pasiwyd deddf yn 1666* (anno decimo octavo Caroli II, c. 4) yn Nheyrnasiad Siarl yr Ail, i'r perwyl nad oedd neb i gael ei gladdu ond mewn gwlan, er mwyn cefnogi'r fasnach wlan a phapur, a lleihau at-gludiad llian (linen) o du draw y moroedd. [1]

Dilewyd hon gan ddeddf arall, sef 30 Car. II, Stat. 1, c. 3, yn 1677, yr hon a orchymynodd (1) nad oedd un corph ar ol y 1af o Awst 1678 i gael ei gladdu mewn crys, crys merch, llen-llian, neu amwisg, neu unrhyw beth bynag a wnaed, neu a gymysgwyd a llin, cywarch, sidan, gwallt, aur, neu arian, neu unrhyw stwff arall, oddigerth ei fod o ddefnyddiad gwlan y ddafad yn unig, neu yn cael ei osod yn unrhyw arch wedi ei chuddio, neu arwynebu ag unrhyw fath o frethyn neu stwff, neu unrhyw beth arall wedi ei wneyd o unrhyw ddefnydd arall ond gwlan y ddafad. (2) Y ddirwy am ei throseddu oedd pum punt o arian cyfreithiol Lloegr. Os y byddai person farw o'r pla, gallesid ei gladdu mewn unrhyw beth.

(3) Yn ol y ddeddf uchod, yr oedd yn rhaid gwneyd llw o fewn wyth niwrnod ar ol y gladdedigaeth, o flaen Ynad Heddwch, Meistr y Canghellys, Maer, Beili, neu unrhyw brif swyddog arall o ddinas, sir, bwrdeisdref, corphoraeth, neu dref marchnad yn y sir lle y claddwyd y person, ei fod wedi ei gladdu mewn gwlan.

Darfu i Ddeddf arall, sef 32 Carol. II, c. i, gyfnewid adran y 3ydd o'r uchod, fel hyn: Ar ol yr 2il o Chwef. 1680, pa le bynag ni thrigianai Ynad Heddwch, yno awdurdodwyd unrhyw Berson, Ficer, neu Gurad i dderbyn llwon, a hyny yn rhad.

  1. Efallai y gofyna y craffus sut y mae Anno Decimo Octavo Caroli II yn gwneyd 1666, a Siarl II yn dechreu teyrnasu yn 1660. Yr atteb yw hyn: yn ol y gyfraith, nid yw dwy Werin-lywodraeth Oliver a Richard Cromwell i'w cyfrif, ac ystyrir Siarl II yn dechreu teyrnasu yn 1648. Felly, 1648 a 18=1666.
    Diolchwn i Mri. Evans a Thomas, Cyfreithwyr, Llandyssul, am ein cynnorthwyo i chwilio allan y deddfau a nodir.