Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu y ddwy ddeddf olaf mewn grym hyd nes y pasiwyd deddf ar y 23ain o Orphenaf 1814, sef 54 Geo. III, Cap. 108, yr hon a'u dileodd. Y mae geiriad y ddeddf olaf fel hyn:—" Yn gymaint ei bod yn gymhwys i ddiddymu y cyfryw ddeddfau (sef 30 Car. II, stat. 1, c. 3, a 32 Carol. II, c. 1, yn gorchymyn claddu mewn gwlan), Boed yn ddeddfedig gan ei dra aruchel ardderchowgrwydd y Brenin, gyda a thrwy gydsyniad yr Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol, a'r Tŷ Cyffredin, cynulledig yn y Senedd bresenol, a thrwy Awdurdod y cyfryw, y bydd y deddfau a enwyd yn cael, ac y mae y cyfryw yn cael trwy hyn yma eu diddymu.”

Yn yr adeg hon (1814-1815) pasiwyd deddfau i ganiattau all-gludiad gwlan ac at-gludiad lliain.

IV. CAPELI O DAN Y FAM-EGLWYS BRESENOL.

(a.). EGLWYS SANT FFRAED. Codwyd yr Eglwys hon ym mhentref Tregroes, gan y Parch. E. Morgan, yn y flwyddyn 1858. Ar ddiwrnod ei hagoriad, pregethodd y Parch. Evan Jones, Rheithor Trefdraeth, y bregeth agoriadol, oddiar yr un testyn aga bregethwyd ddiweddaf yn hen Gapel Sant Ffraed ar dir Dyffryn Llynod, sef II Thes, 1, rhan o'r 8fed adnod: "Gan roddi dial, &c." Claddwyd y cyntaf yma cyn adeiladu yr Eglwys. Y mae y bedd oddifewn i'r Capel, o dan y ddwy sedd nesaf at y pwlpud, ar y llaw aswy wrth fyned i fewn i'r Eglwys. Oddiwrth y Cofrestrau cawn mai y Parch. David Jones, M.A., Cwm, gladdwyd gyntaf, yr hyn gymerodd le Hydref 14eg, 1857, pan ydoedd yn 57 mlwydd oed. Ar garreg fedd David L. Evans, Dinas Cerdin, yn y fynwent, ceir tri llew.

(b.) EGLWYS SANT IOAN. Yn y flwyddyn 1853 dechreuwyd tori sail yr Eglwys hon, ddau lêd cae oddiwrth Eglwys St. Sylfed, ond penderfynwyd yn ddiweddarach ei chodi ar dir Pantysgawen, Dyffryn Clettwr Fach. Cwblhawyd hi yn 1855. [1] Codwyd hi gan John Lloyd

  1. Dywedodd Thomas, yr Esger, wrthym, mai yn 1855 y cwblhawyd yr Eglwys, Gyferbyn a'r cerfiad y tu allan i'r ffenestr, oddifewn i'r ganghell, cawn O. C. a 85, wedi eu cerfio. Dywed Thomas, yr Esger, y bu y ffigyrau 1855 unwaith ar y ffenestr.