Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies, Ysw., Alltyrodyn, yn amser y Parch. E. Morgan. Adeiladwyd hefyd Ysgoldy, yn ymyl yr Eglwys. Ar garreg ffenestr y ganghell y tu allan, y mae yn gerfiedig yr hyn a ganlyn:

O B
5 8 5 8

O.B. yw oed y byd.[1]

Y cyntaf a gladdwyd yma oedd Elias Jones, Coedlanau-fawr, plwyf Llanwenog, yr hwn a fu farw Mai 25ain, 1861, yn 49 oed.

(c.) EGLWYS SANT DEWI. Codwyd yr Eglwys hon, yn ogystal a'r Ysgoldy, gan J. Lloyd, Ysw., Alltyrodyn yn flwyddyn 1835. Y mae yn adeilad hardd iawn. Yn y ganghell, ar yr ochr ddeheuol, y mae plâd prês fel y canlyn:— To the Glory of God. And in memory of Agnes Marshall Stewart, who died Oct. 1st, 1883. This Church was restored by her Family in 1886." Oddifewn, ar yr ochr ogleddol, y mae taflen o farmor, ac arni yn gerfiedig y geiriau canlynol:

'Sacred

To the memory of

The Rev. David Davies,

late Incumbent of Long Sutton, in the County of Southampton, a Pastor of peculiar kindliness of heart, who, having served his Redeemer in simple faith and Christian Hope, was called suddenly, in God's good time, to enter into that everlasting rest which remaineth to the people of God, on the 8th day of January,

MDCCCLXIV,

In the 71st year of his age.

Watch therefore; for ye know not what hour your Lord doth come.

St. Matth., xxiv Chap., 42 ver."
  1. Yn ôl yr Archesgob James Ussher, a geisiodd gweithio allan oed y byd o achau a hanesion y Beibl, creodd Duw'r byd ar 22 Hydref 4004 CC, felly O.B. 5858=1854-1855 AD