Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uwchben drws yr Eglwys y mae y garreg gerfiedig ganlynol:—

1835

Capel St. Dewi

A

Adeiladwyd

B. C.

MDCCCXXXV.

Yn ddiamheuol y mae camsynied yn yr uchod. Dylai y B yn y B.C. fod yn O er mwyn cael synwyr, yna darllenai O.C. = Oedran Crist.

Claddwyd y cyntaf yma, sef John Lloyd, Glanrhyd, of blwyf Llancwnlle, Mehefin y 14eg, 1843, yn 30 oed.

V. RHEITHORION, FICERIAID, A CHURADIAID Y PLWYF.

(a.) RHEITHORION ("RECTORS").

1. Cyn 1712, Jonathan Edwards.
2. 1712, Chwef. 9fed. Edward Williams.
3. 1713, Mai 4ydd. John Wynne.
4. 1721, Gorph. 17eg. William Jones.
5. 1727, Ebrill 17eg. Eubulus Tholwal.
6. 1727, Medi 5ed. Thomas Pardo (Presb., June29th, 1712).
7. Wm. Oxon.
8. 1763, Awst 24ain. Humphrey Owen, D.D., (Priest March 5th, 1731).
9. 1768, Mai 14eg. Joseph Hare, D.D.
10. 1802, Gorph. 13eg. David Hughes, D.D.
11. 1817, Mai 30ain. Henry Ffoulkes, D.D.
12. 1857, Tachwedd 21ain. Charles Williams.
13. 1878, Ebrill 4ydd. Hugo Daniel Harper, D.D.
14. 1895, Mai 25ain. William Hawker Hughes, M.A.


(b.) FICERIAID.

(1.) Ficer cyntaf Llandyssul ag y mae genym hanes am dano oedd Thos. ap Rhys, yn 1535. Ar ei ol ef bu