Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(2.) Syr David Lloyd, mab Thomas David Llewelyn Lloyd, ac wyr i David Llewelyn Lloyd, Aelod Seneddol cyntaf y Sir, yn Ficer. Nis gwyddom yn gywir pa bryd yr oedd yn Ficer, ond gwyddom oddiwrth gopi o weithred yn ein meddiant, y darfu i'w dad weinyddu writ am ddegwm yn 1603.

(3.) Syr William Dafis yn 1613.
(4.) Parch. Jenkin Lloyd, A.C., yr oedd yn Ficer yn amser Siarl y laf, (1625–1649).
(5.) John Williams —1647. Nis gwyddom pa bryd ddechreuodd ar ei swydd, ond dilynwyd ef yn 1647 gan
(6.) Walter Bowen; mis Mai 1647.

Yn y 'Diocesan Registry," Caerfyrddin, a thrwy garedigrwydd J. H. Barker, Ysw., gwelsom yn Llyfr yr "Episcopal Acts," y darfu i'r personau canlynol gael eu happwyntio i ofalu am Eglwys Llandyssul.

(7.) 1668. Daniel Lewis, o Landyfriog.
(8.) 1670. Thomas Howell, o Blaenporth, Sir Aberteifi.
(9.) 1670. John Morgan.
(10.) 1674. Richard Owen.
(11.) Awst 23ain, 1716, appwyntiwyd Edward Jones, (Presb. Sept. 20th, 1713), yn Ficer parhaol.
(12.) Cyflewyd yn 1744, Gorph. 18fed, John Thomas, B.A.
(13.) 1793. Hyd. 3ydd, David Davies.
(14.) 1797. Mai 12fed, Hector Bowen. Ganwyd a magwyd ef yn y Persondy, Llangeler. Bu yn Gurad yn Llangadog. Bu farw Ebrill 13eg, 1819, yn 53 oed, a chladdwyd ef yn Llandyssul.
(15.) 1819. W. Grey Hughes.
(16.) 1822. Enoch James.
(17.) 1849. Evan Morgan.
(18.) 1868. William George Jenkins—hyd heddyw.