Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anedd-dy LLYNDDWFR, o fewn dau ergyd carreg i orsaf presenol Pencader. Ni wyddis yn iawn ym mha flwyddyn y dechreuasant fynychu yno, ond y mae sicrwydd fod gan Mr. Stephen Hughes, Meidrym, nifer o ddisgyblion yn Llynddwfr tua'r flwyddyn 1650. Ar ol i erledigaeth yr Ymneillduwyr ledaenu dros y wlad, er mwyn diogelwch, symudasant eu cyrchfan addoliadol i GWMHWPLYN, i le cysgodol yn yr ogof a elwir Cwmclud. Oddiyma darfu i'r bobl, pan y cawsant ryddid crefyddol vn 1688, symud i addoli ym Mhencader, a Phantycreuddyn ar dir Gellifaharen. Yr oedd Mr. Stephen Hughes yn pregethu i'r Ymneillduwyr yn Llandyssul tua 1660 —1668. Bu Mr. Hughes farw yn 1688. Yr oedd ganddo ddau gynorthwywr yn Nghwmhwplyn, sef Owen Davies a John James. Ar ol Mr. Hughes, urddwyd Mr. William Evans yn weinidog Pencader. Nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuodd yr Ymneillduwyr addoli yn rheolaidd yn Llandyssul, ond cawn eu bod yn cyfarfod ar Graig Wyon, ac o dan dderwen yn ymyl amaethdy Pantgwyn, yn y flwyddyn 1698. Paham y cyfarfyddent o dan y dderwen nis gwyddom. Efallai am fod yr amaethdŷ yn rhy fychan i ddal y dorf ymgynullai yno. Nis gwyddom chwaith pwy bregethai iddynt, ond yn ol pob tebygolrwydd y Mr. William Evans uchod, olynydd Mr. Hughes, ac efallai Owen Davies a John James, y Cynorthwywyr. Ym mhen tua dwy flynedd, sef y flwyddyn 1700, codwyd addoldŷ bychan ym MHANTYCREUDDYN. Symudodd cynulleidfa Pantgwyn yno, a buont yn addoli yma o leiaf 80 mlynedd. Bu Eglwys Pantycreuddyn dan yr un weinidogaeth a Phencader drwy yr holl amser. Gweinidog cyntaf Pantycreuddyn, y mae genym sicrwydd am dano, oedd James Lewis, o Dinas Cerdin, plwyf Llandyssul, yr hwn a urddwyd yn 1706. Bu yma am 41 o flynyddau. Rhyngddo ef a Jenkin Jones y dechreuodd y ddadl fawr Arminaidd. Yn 1726 torodd cangen allan o Bantycreuddyn, ac aethant i Lwynrhydowen, pan yr urddwyd Jenkin Jones ym mis Ebrill y flwyddyn hono yn weinidog iddynt. Y Gweinidog nesaf oedd y Parch. John Lewis, o Flaencerdin, mab Mr. James Lewis. Bu ef yn gweinidogaethu iddynt ychydig flynyddau cyn marwolaeth ei dad, a pharhaodd yn y swydd am 25 mlynedd