Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan y bu farw. Ar ei ol ef urddwyd Mr. Lewis Lewis o'r Ddôlwen, ym mhlwyf Llanfihangel—ar—Arth, yn Weinidog. Ni fu ef yma ond am dymhor byr. Yna daeth Mr. William Perkins, brodor o Ddinbych yma, a bu yn gweinidogaethu o'r flwyddyn 1772 hyd 1775, ac efallai am ychydig flynyddau yn rhagor. Yr oedd Mr. Perkins yn gawr mewn corph, a thros 6 troedfedd o daldra. Oddiwrth Gofrestrau y Plwyf, cawn ei fod yn bresenol ym mhriodas "Griffith Griffis," o blwyf Bridell, yn Sir Benfro, "Gent & Bachelor," ас "Elizabeth Lewis of this Parish," ar yr 21ain dydd o Fai, 1774. Arwydda ei enw fel un o'r tystion: "William Perkins, Minister of ye Gospel." Oherwydd fod Mr. Perkins yn rhy hoff o Syr John Heiddyn, bu anghydfod yma, fel ym Mhencader, ac aeth y mwyafrif o'r aelodau ymaith gan adael ychydig ar ol ym Mhantycreuddyn gyda Mr. Perkins. Darfu i'r mwyafrif addoli mewn anedd-dai am dymhor, ond wedi i'r gynulleidfa a adawyd gyda Mr. Perkins fyned i'r dim, ac yntau i ymadael a Chymru, dychwelasant i Bantycreuddyn. Dywedodd hen wr o'r plwyf hwn mai y rheswm i Mr. Perkins ymadael a'r wlad yn ddisymmwth oedd hyn: Un diwrnod, pan oedd y "press gang" yn gorfodi dyn ieuanc i ymuno a hwynt, ymosododd Mr. Perkins ar ddau o honynt, curodd hwynt yn ddidrugaredd, a rhyddhaodd y dyn ieuanc. Gorfu iddo gilio ymaith, ac aeth i Lundain. Cafodd ryw swydd dan y llywodraeth ar Afon Tafwys yn Llundain, a phan yn dal y swydd bu farw. Y nesaf i weinidogaethu ym Mhantycreuddyn oedd y Parch. Benjamin Jones. Myfyriwr ydoedd yn Athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef Mai 25ain, 1779. Cymerodd lês ar fferm y Bwlchog, plwyf Llanfihangel—arArth, a chododd ei Eglwysi (Pencader a Phantycreuddyn) dŷ iddo arni. Yr oedd yr Eglwysi yn dra llewyrchus o dan ei weinidogaeth, er nad oedd y ddadl fawr Arminaidd, yr hon ddechreuodd yn 1729, ddim wedi hollol ddistewi hyd y nod yn ei amser ef. Fel hyn y canai yr Arminiaid am Eben (ai ni ddylasai fod yn Beni?) Jones:

"De'wch i lawr i Bantycreuddyn,
Chwi gewch glywed pregeth Calfin,