Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eben Jones yn gwaeddi ma's
Nad oes dim gras i bob-dyn."

Dyma'r attebiad i bobl Llwynrhydowen:

"Mae lot o adar llawen,
Yn nytho yn Llwynrhydowen
Ac mae nhw'n meddwl myn'd yn serth
I'r nef yn nerth eu hunen."

Ym mhen tair blynedd ar ol ei urddiad, sef yn 1782, yr oedd Mr. Jones ym Mhantycreuddyn un Sabboth, ac wedi dyfod i lawr o'r pwlpud ar ol pregethu, aeth at y bwrdd i weini Cymundeb, pan estynwyd llythyr iddo, ac wedi ei ddarllen aeth allan. Wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd, aeth un o'r diaconiaid i edrych am dano, ac er ei syndod, gwelai ef yn myned ar ei anifail tuag adref. Bu hyn yn achos tori y cysylltiad rhyngddo a Phantycreuddyn a Phencader. Ym mhen amser, ymsefydlodd yn Rhosymeirch, Môn, ac aeth wedi hyny i Bwllheli, lle y treuliodd weddill ei oes. Ym mhen dwy flynedd, sef 1784, yr oedd eglwys Pantycreuddyn wedi gadael yr hen adeilad, ac wedi adeiladu HOREB. Ymgorphorodd eglwys yno. Dywedwyd wrthym gan hen ŵr, iddo glywed mai yr olaf a bregethodd o fewn muriau adfeiliedig Pantycreuddyn oedd Christmas Evans.

(b.) EGLWYS HOREB. Y mae Capel Horeb ym mhlwyf Llandyssul, tua dwy filldir i'r gogledd—orllewin o'r pentre ac Eglwys y plwyf. Wedi ei hymgorphoriad yn 1784, ac ar ol ymadawiad y Parch. Benjamin Jones o Bantycreuddyn, rhoddodd yr eglwys wahoddiad i'r Parch. Jonathan Jones, Rhydybont i'w bugeilio, yr hon dderbyniodd, a gwasanaethodd yr eglwys am 21ain o flynyddau. Cafodd Mr. John Lloyd, aelod o Bencader, a Myfyriwr yn Ngholeg Caerfyrddin, ei urddo yn gynnorthwywr i Mr. Jones, Tachwedd yr 2il, 1802, a pharhaodd yn ei swydd yma hyd ei symudiad i Henllan yn 1805. Am y tair blynedd nesaf, bu yr eglwysi yn petruso pa un a fyddent yn dal eu cysylltiad ag eglwysi eraill Mr. Jones, neu gael gweinidog iddynt eu hunain; o'r diwedd, penderfynodd y mwyafrif gael gweinidog. Rhoddasant alwad i Mr. Thomas Griffiths, Trefdraeth, ac urddwyd ef yma yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth, 1808. Llafuriodd Mr.