Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffiths yma yn galed am chwe' blynedd, ac yna symudodd i fod yn gyd—weinidog a'i ewythr, Mr. Evans, yn Nhrewen, tua dwy filldir islaw Castellnewydd Emlyn; yna rhoddodd yr eglwys alwad i un o'i meibion i'r weinidogaeth, sef Mr. John Jones, Gilfachronw, yr hwn oedd newydd gwblhau ei efrydiaeth yn Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef tua diwedd y flwyddyn 1814. Bu yma am dair blynedd, hyd ei farwolaeth yn 1817. Ei ganlyniedydd oedd Mr. Samuel Griffiths, yr hwn a urddwyd yn Weinidog yma Medi 29ain a'r 30ain, 1818. Yr oedd 218 o aelodau yma pan sefydlwyd Mr. Griffiths, a thrwy ei ddiwydrwydd ef cynyddasant yn ddirfawr, fel yr helaethwyd y capel i gymaint arall o faint yn 1826. Mesurai y capel 40 troedfedd wrth 27 troedfedd, etto aeth yn rhy fach, fel yr helaethwyd ef yn 1832. Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd cangen o'r eglwys ym Mwlchygroes, ac ailadeiladwyd CARMEL, cangen arall iddi. Yn 1860, bu farw Mr. Griffiths, ac yn 1862 urddwyd ei ganlyniedydd, Mr. Thomas Pennant Phillips, yn Weinidog. Y mae Mr. Phillips wedi eangu nifer y canghenau, oblegyd Hydref y 12fed a'r 13eg, 1864, corphorwyd eglwys yn y GWERNLLWYN, yr hwn sydd tua tair milldir i'r gorllewin o Horeb, heb fod yn mhell o'r brif—ffordd sydd yn arwain o Landyssul i Gastellnewydd Enlyn, ar y tu gogleddol i Afon Teifi. Cangen arall yw SEION, Llandyssul. Er fod y canghenau hyn wedi eu ffurfio, etto y mae y fam—eglwys yn flodeuog. Adeiladwyd y Capel yn gyfangwbl o'r newydd, ond rhan o'r muriau, ac agorwyd ef Mai 21ain a'r 22ain, 1879. Nid oes yr un garreg gerfiedig yn y Capel hwn, ond yn yr un blaenorol yr oedd dwy; yr oedd y gyntaf y tu allan, yn gwynebu yr heol, fel hyn:

"HOREB
a