Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

52 Y J. T. hwn a 'fagwyd yn Nôlwen. Bu'n byw yn Llwynyreos, Llanfairorllwyn, ac yno y bu farw.

Yr oedd yr ail y tu fewn, uwchben y pwlpud, fel hyn:

"Gwylia
ar dy droed
pan fyddech yn
myned i dŷ
Dduw."

Y Mae y Gweinidogion canlynol wedi codi o'r eglwys hon

(1.) James Jones. Urddwyd ef yn Nghapel Helyg, Arfon, yn 1832; symudodd oddiyno i Abermaw, lle y treuliodd y gweddill o'i oes.

(2.) John Williams.

(3.) D. W. Jones. Ymfudodd i'r Amerig. Ganwyd yn Wern—newydd, ym mhlwyf Llanfairorllwyn, Hyd. 14eg, 1809. Yr oedd ei fam yn un o deulu Maengwyn; aeth i'r Neuaddlwyd ; yna i Rotherham. Sefydlodd yn Nhreffynon, Awst 25ain, 1835. Bu farw Tach. y 7fed, 1861, yn 52 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Seion, Treffynon.

(4.) David Evans. Ganwyd ym mhlwyf Llandyssul, yn 1803. Derbyniwyd ef yn Horeb, 1824. Dechreuodd bregethu yn 1828. Aeth i Neuaddlwyd, ac oddiyno i Meare yn Ngwlad yr Haf. Yn 1837 symudodd i Winsham yn yr un Sir, lle yr urddwyd ef yn 1839. Methodd oherwydd afiechyd yn 1859; symudodd i Wiveliscombe, lle y bu farw Rhagfyr 20fed, 1863.

(5.) Theophilus Griffiths, mab y Parch. S. Griffiths, y Gweinidog. Bu farw Ionawr 20, 1838, prin 20 ml. oed.

(6.) Thomas Davies, Pantmorwynion. Yr un oed, dechreuodd bregethu yr un pryd, a bu farw yn agos yr un amser a Theophilus Griffiths.

(7.) David Jones. Urddwyd ef ym Mhenygroes, Sir Benfro. Gweinidog Gwernllwyn. Bu farw Awst, 1893, a chladdwyd ef yn y Gwernllwyn.

(8.) John Davies, Pregethwr Cynorthwyol.

(9.) James Davies, Pregethwr Cynorthwyol.

(10.) Dr. E. Pan Jones, Mostyn.

(11.) Llewelyn S. Davies, Tre William, (William's Town), Sir Forganwg.