Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EGLWYS SANT IOAN.

Dechreu'r Achos.1859
Adeiladu'r Eglwys 1873-6
Adeiladu'r Ficerdy 1889
Twr, Clychau a Festri 1900
Neuadd Eglwysig 1900
Ychwanegu dwy Gloch 1902


Y Ficeriaid.

Y Parch. D Lloyd Jones 1884-1888
Y Parch. Ll. R. Hughes, M.A 1888-1902
Y Parch. J. E. Williams, M.A. 1902


O'r flwyddyn 1795 hyd 1863 yr oedd Plwyf Ynyscynhaiarn yn gysylltiedig â phlwyfi Treflys, Llanfihangel y Pennant, a Chriccieth, ac yn ffurfio un fywoliaeth eglwysig. Yn 1863 gwahanwyd y Pennant oddi wrthynt, gan adael y tri plwyf arall i barhau'n un fywoliaeth. Yn ystod y cyfnodau hyn preswyliai'r ficeriaid yng Nghriccieth. Yn 1884 gwahanwyd drachefn blwyf Ynyscynhaiarn,—a gynhwysai y ddwy dref ddegwm—Y Gest ac Uwch y Llyn—oddi wrth blwyfi Treflys a Chriccieth; a bu felly hyd 1908, pan y gwnaed Porthmadog yn blwyf eglwysig annibynol ar Ynyscynhaiarn (neu Uwch y Llyn).

Un o Eglwyswyr mwyaf aiddgar Dyffryn Madog, hanner can mlynedd yn ol, ydoedd Mr. R. Isaac Jones (Alltud Eifion); ac iddo ef a Mr. John Thomas y Cei y mae'r Eglwyswyr i ddiolch fod gwasanaeth eglwysig wedi ei ddechreu ym Mhorthmadog pryd y gwnaed, sef yn y flwyddyn 1859. Cyn hynny, nid oedd gan yr Eglwyswyr Cymreig a ddeuent i sefydlu yno unrhyw fath o fanteision crefyddol yn eu hiaith eu hunain. Er y bu am gyfnod byr,—yn ystod arhosiad y Parch. D. Walter Thomas, M.A.,—un gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnal yn Nhremadog; ar wahan i hynny, Seisnig a gwannaidd oedd yr achos—dim ond gwasanaeth Seisnig ar fore a phrydnawn Sul, a'r person yn byw yng Nghriccieth. Nid oedd gwasanaeth hwyrol yn cael ei gynnal y pryd hynny trwy holl ddeoniaeth Eifionnydd. Wedi dyfodiad Mr. Thomas i Borthmadog yn y flwyddyn 1850—ac efe'n Eglwyswr selog—nid oedd