ganddo ddim i'w wneud ond boddloni ar fyned i Dremadog. Ond gan na cheid yno yr un gwasanaeth Cymraeg ar ol ymadawiad y Parch. D. Walter Thomas i Benmachno o herwydd diffyg cydymdeimlad y Saeson a fynychent y lle â'r gwasanaeth Cymraeg—dechreuodd Alltud Eifion a Mr. Thomas wasanaeth lleygol yn y Neuadd Drefol, a pharhaodd hwnnw am tua pymtheg mis.
Yn y flwyddyn 1859 cafwyd cynhorthwy y Gymdeithas Fugeiliol, Llunden, a gwasanaeth y Parch. Eliezer Williams—Llangybi ar ol hynny—yn gurad; a chafwyd yn fuan gydweithrediad yr arweinwyr eglwysig yn y lle. Dechreuwyd cynnal y gwasanaeth yn yr Ysgol Genedlaethol, lle y buont yn ymgynnull am gyfnod o bedair blynedd ar ddeg. Y curadiaid eraill a fuont mewn gofalaeth o'r lle oeddynt y Parchn. Owen Lloyd Williams—Llanrhyddlad yn awr; Robert Williams, Daniel Jones, Alban Griffith, a F. Thomas—y Fallwyd yn awr. Cynhelid gwasanaethau Cymraeg fore a hwyr, a Saesneg yn y prydnawn. Yn y flwyddyn 1864 derbyniodd yr Eglwyswyr gynhorthwy parod a gwerthfawr yn nyfodiad Mr. Grindley; a bu Glasynys hefyd yno am ychydig yn amser ei briodas â Mrs. S. Jones, y Sportsman Hotel ond nid oedd efe'n gurad.
Yn ystod y blynyddoedd hynny, wrth weled yr achos yn cynyddu, meddyliai'r rhai oedd a chyfrifoldeb y mudiad arnynt am y priodoldeb o gael eglwys deilwng o'r lle, a sicrhawyd tir mewn lle manteisiol tuag at hynny.
Ar y 24ain o Dachwedd, 1871, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Ysgol Genedlaethol, pryd yr oedd yn bresennol—Esgob Bangor, y Parch. Erasmus Parry, Major Mathews, Mri. E. Bresse, John Casson, S. Holland, A.S., Griffith Owen, B. Wyatt, Owen Griffith, Richard Norman, Thos. Casson, Morris Richards, R. Isaac Jones, John Parry, J. H. Jones, Samuel Vaughan, J. Thomas, ac eraill. Daethpwyd i benderfyniad unfryd i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Rhoddwyd y tir ar ran ystad Madocks gan Mr. E. Breese, ar