Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, Y Siop. Bu gryn siarad cyn ei chychwyn ar ba gynllun i'w gweithio, pa un ai ar y Bell neu y Lancastrian, neu fel yr adnabyddid y ddwy gyfundrefn yn well ar ol hynny,—y Genedlaethol a'r Frytanaidd. Y diwedd fu, myned a'r achos i'w benderfynu at Mr. Madocks; rhoddodd yntau y flaenoriaeth i'r cynllun Brytanaidd, gan roddi caniatad i'w chynnal yn Ystafell y Neuadd. Dodrefnwyd y lle'n gyfaddas. Cafwyd rhodd o wersi oddi wrth y Fam Gymdeithas yn Llunden, a daeth gŵr o Loegr yno i gyfarwyddo'r athro, Mr. John Wynn, brodor o Gaernarfon—yn y gyfundrefn addysg. Yr unig ysgol yn y cwmpasoedd y pryd hynny ydoedd un Genedlaethol yn Llanystymdwy, ag un R. Davies yn athro arni. Pan sefydlwyd Ysgol Tremadog daeth iddi blant o Benrhyndeudraeth, Beddgelert, Nant Gwynant, Nant y Bettws, Brynengan, y Garn, Criccieth, a rhai o Lanystymdwy, fel na bu'n hir cyn dod yn ysgol bwysig a'r fwyaf blodeuog yng Ngogledd Cymru.[1] Yr oedd hynny cyn i'r Llywodraeth gymeryd addysg fel rhan briodol o'i gwaith. Ni roddwyd grant tuag at addysg hyd y flwyddyn 1833, ac ugain mil a roddwyd y pryd hynny.

Bu Mr. John Wynn yn Nhremadog am flynyddoedd; dilynwyd ef gan Cornelius Stovin—Sais o Sir Lincoln; John Parry (Treborth wedi hynny); D. Morgan Williams,—gwr a ddaeth i gryn sylw fel pregethwr o nôd gyda'r Bedyddwyr, ac a fu'n olynnydd i'r enwog Robert Hall yn Leicester; ac un Jonah Jones.

YSGOLION CYNTAF PORTHMADOG.

Yr ysgol gyntaf ym Mhorthmadog, yn ol pob hanes, yw yr un a gadwai'r hen forwr dyddorol William Griffith, ym Mhen y Cei, wrth ochr y Grisiau Mawr. Morwriaeth yn bennaf a ddysgai efe. Nid oedd gan yr hen lanc, druan, ond un ystafell at ei holl wasanaeth—i gadw ysgol, gwneud ei fwyd, golchi a phobi, byw a chysgu ynddi. Cysgai mewn hammock a grogid wrth y nenfwd. Ei flasusfwyd fyddai penwaig a wynwyn,

  1. Mr. John Wynn yn yr Herald am Gorffennaf, 1868.