Tua'r flwyddyn 1843 ymgynhullodd goreugwyr Tre a Phorthmadog ynghyd, i ystyried y priodoldeb o adeiladu ysgol. Y prif symudydd gyda hyn eto ydoedd Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch. Penderfynwyd adeiladu un mewn man cyfleus, cydrhwng y ddwy dref, a dewiswyd Bont Ynys Galch fel lle canolog. Codwyd yr ysgol yn y fan lle y saif y Queen's Hotel arno'n awr. Wedi ei naddu ar garreg ar wyneb yr adeilad yr oedd geiriau Solomon: Train a child in the way he should go; and when he is old, he will not depart from it."
Yr ysgolfeistr cyntaf ag y mae gennym fawr o fanylion yn ei gylch ydoedd y llenor coeth Mr. Morris Davies—Bangor wedyn—er fod un, os nad dau, wedi bod o'i flaen. Cariai'r ysgol ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Yr oedd yr ysgol i fod yn rhydd oddi wrth bob math o enwadaeth, a phleidiaeth. Bu Mr. Davies yn cadw ysgol cyn hyn ym Mhont Robert, y Fallwyd, a Llanfyllin. Credaf y gellir cymeryd yr hysbysiad a ganlyn o'i eiddo i drigolion Llanfyllin fel ei gynllun o gario'r ysgol ymlaen ym Mhorthmadog:—Morris Davies respectfully informs the Public that he intends opening a School at Llanfyllin on Monday, the 6th of March, 1826. Terms: Reading per quarter, 3/—; Writing, 5/—; English Grammar, 6/—; Arithmetic and Book—keeping, 7/—; Geometry and Mensuration, 10/—; Entrance, 1/—. The School will be conducted upon the old system, and the most scrupulous attention will be paid to the Instruction and the Morals of the Children.
Nis gellir dweyd fod Mr. Davies yn batrwm o ysgolfeistr. Yr oedd yn ddyn llawer rhy addfwyn a thyner i lywodraethu plant yr oes honno. Er ei fod yn meddu ar lawer o ragoriaethau, eto ni feddai yr un hanfodol i ysgolfeistr, sef y ddawn ddisgyblaethol. Mewn ysgrif faith ar Mr. Davies, dywed y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor, am dano:—"Gyda'i hynawsedd a'i fedrusrwydd i ganu y cydymdeimlad a ddengys yn ei emynnau i blant a'u natur a'u hysbryd, ynghyda'r awyddfryd a deimlai gŵr mor gydwybodol âg ef am ddwyn ei ysgolheigion ymlaen, y mae'n rhaid fod ysgol Mr.