Morris Davies y dyddiau hynny yn ysgol dda. Ar yr un pryd, gan ei fod mor araf yn ei symudiadau, ac heb y fantais o gael training priodol i'r gwaith, nid ydym yn synnu fod un o'r inspectors, wedi arolygu yr Ysgol Frytanaidd oedd o dan ei ofal, yn dweyd wrth Mr. Williams, Tuhwnt i'r bwlch, He may be a good scholar but he is not a good teacher.'"[1]
Er hynny gwnaeth waith rhagorol, a rhoddir iddo dystiolaeth uchel gan rai a fu o dan ei addysg. Yr oedd yn hynod o ofalus a pherffaith yn ei ffyrdd, er yn hollol ddiymhongar. Gallasai fod wedi cyrraedd safleoedd uchel o ran ei alluoedd; ond "Os cai ymborth a dillad," ebe Mr. Rowlands, a modd i gyfranu ychydig at waith yr Arglwydd Iesu ac i bwrcasu ambell lyfr, a hamdden i ddilyn ei hoff efrydiau, yr ydoedd efe yn ddiolchgar iawn, ac yn berffaith foddlawn i bobl gael y gofalon a'r anturiaethau, ynghyd ag unrhyw wobrwyon a allent ennill trwyddynt.'
Gadawodd Mr. Davies Borthmadog, a'r swydd o ysgolfeistr, i fyned i Fangor. Wedi ei ymadawiad ef ymunodd y rhai oedd â chyfrifoldeb addysg arnynt i gael ysgolfeistr cyflogedig; a phenodwyd Mr. Evan Jones—brodor o Ddolgellau, a ddechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, ond a fu farw'n ieuanc.
Yn y flwyddyn 1851 cawn fod y Pwyllgor yn gohebu âg Eben Fardd. Yr oedd Eben, wedi bod yn cadw ysgol yng Nghlynog am dros 22 mlynedd; ond ar y 3ydd o Ragfyr, 1849, derbyniodd lythyr oddi wrth y Ficer, yn ei hysbysu nas gallai barhau'n athraw yno'n hwy, oni ddeuai'n gymunwr eglwysig. Ond yr oedd hynny'n fwy nas gallai Eben Fardd ei wneud. Gwell oedd ganddo golli yr ysgol na threisio'i argyhoeddiadau, ac hysbysodd y Ficer o hynny. Ni bu efe'n hir cyn i le arall gael ei gynyg iddo; a'r lle hwnnw ydoedd Ysgol Porthmadog. Y mae nodiadau Eben Fardd yn ei ddyddlyfr, yn y cysylltiad hwn, mor ddyddorol a gwerthfawr, fel nas gallaf ymatal rhag eu dyfynu yma, fel yr ysgrifennodd efe hwynt, ac fel y ceir hwynt yn Wales (O. M. E.), Cyf. iv.:—
- ↑ Y Traethodydd, 1877, tud. 233.