chynnydd y boblogaeth; ac yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd Ysgol Snowdon Street, yr hon a ddygid ymlaen o dan y gyfundrefn Genedlaethol. Ei phrif sefydlwyr oeddynt:—Mr. Edward Breese, Major Mathew, Mr. J. Humphreys Jones, Mr. John Thomas, ac Alltud Eifion. Byr a fu arhosiad y tri ysgolfeistr cyntafMr. Malcolm, Mr. Griffiths, a Mr. Maddern. Bu'r diweddaf farw ar yr 8fed o Fedi, 1863. Ar y 18fed o Fedi, penodwyd Mr. Richard Grindley, Is—athraw Ysgol Genedlaethol Caernarfon, yn olynydd iddo. Dechreuodd Mr. Grindley ar ei ddyledswyddau ym Mhorthmadog ar y 5ed o Hydref. Cyfartaledd y presenoldeb yn yr ysgol gymysg am yr wythnos gyntaf iddo ydoedd 116. Bu dyfodiad Mr. Grindley yn gaffaeliad mawr i'r ysgol: yr oedd ei brofiad, a'i ddisgyblaeth fanwl, yn ennill iddo barch a dylanwad yn y dref a'r cylch, a daeth yn fuan 1 gael ei gydnabod fel un o athrawon goreu y broydd. Cynhyddai rhif yr ysgolheigion yn feunyddiol, fel erbyn yr wythnos olaf o Ragfyr, 1864, yr oedd cyfartaledd y presenoldeb wedi codi i 251. Am ansawdd yr ysgol, dywed Mr. D. Thomas, Arolygydd y Llywodraeth, yn ei adroddiad am 1865:—"Y mae ansawdd yr ysgol hon yn dda iawn, ac yn glod i'r rheolwyr a'r athrawon. Y rhannau mwayf anfoddhaol o'r gwaith ydyw y Llawysgrifen a Sillebu y Safonau uchaf."
Erbyn y flwyddyn 1871—blwyddyn brwydr y Bwrdd Addysg yr oedd cynnifer a 425, gan gynnwys Ysgol y Babanod, ar y llyfrau. Derbyniwyd y flwyddyn honno grant y Llywodraeth, £150; tanysgrifiadau, £47; cyfraniadau'r plant, £105. Wele enwau'r athrawon:—Richard Grindley, athraw trwyddedig; R. E. Williams, athraw cynorthwyol; John Roberts, P.T., iv.; Owen Roberts, P.T., ii.; Wm. Davies, P.T., ii.; Wm. Thomas, P.T., ii.; Richard Roberts, C; Robert Humphreys, C.
Athrawes y Gwniadwaith: Miss Mary A. Eccles.
BRWYDR Y BWRDD ADDYSG.
Pan basiwyd Deddf y Bwrdd Addysg, yn 1870, daeth tair elfen bwysig i mewn i lywodraeth addysgol