Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth Mr. R. Rowland yno i'w rhybuddio o'u hafreolaidd-dra, gan eu hannog i ymbwyllo; er hynny troi'n glust—fyddar i Mr. Rowland a ddarfu'r cyfarfod, a phasio i anfon y penderfyniad i'r awdurdodau i Lunden. Achosodd hyn gryn gynhwrf a brwdfrydedd yn y dref.

Ar y 3ydd o Fawrth, 1871, cynhaliwyd Festri, trwy orchymyn swyddogol Clerc y Gwarcheidwaid, yn ystafell y Neuadd Drefol, i gymeryd llais y trethdalwyr o berthynas i fabwysiadu'r Ddeddf. Llywyddwyd gan Mr. Edward Breese, ac eglurodd amcan y cyfarfod mewn modd eglur a diduedd. Yr oedd trefniadau'r cyfarfod wedi eu cwblhau'n flaenorol. Cynnygiodd Mr. W. E. Morris, a chefnogodd Mr. William Jones, chandler,

"Ym marn y cyfarfod, fod yn angenrheidiol mabwysiadu Bwrdd Ysgol yn y plwyf.'

Cynygiwyd gwelliant gan Major Mathew, y Wern, a chefnogwyd yntau gan Mr. J. Humphreys Jones:—"Ym marn y cyfarfod hwn, nad ydyw na doeth nac angenrheidiol ffurfio Bwrdd Ysgol yn y plwyf hwn."

Wedi dadleu brwd, rhoddwyd y gwelliant i bleidlais y cyfarfod, yn gyntaf drwy godi deheulaw; ac ebe Ioan Madog:—

"Daliwch i godi'ch dwylaw,
Purion peth i droi'r dreth draw."


Yna "rhanwyd y tŷ," drwy orchymyn i bleidwyr y gwelliant sefyll ar un ochr i'r neuadd, a phleidwyr y cynnygiad gwreiddiol" sefyll yr ochr arall. A'r gwelliant a orfu.

Ond ni fynnai pleidwyr y Bwrdd fod y cyfarfod hwnnw yn arddanghosiad teg o wir deimlad y trethdalwyr, a gofynasant am poll.

Cynhaliwyd yr etholiad ar ddydd Gwener, y 17eg, a chafodd y rhai a'i hawlient weled nad oedd pethau cynddrwg ag yr ymddanghosent eu bod bythefnos cyn hynny. Allan o 750 o drethdalwyr, pleidleisiodd 648. Wele'r modd y pleidleisiasant:—