Mwyafrif | ||||
Yn erbyn | Dros | Yn Erbyn | Dros | |
Porthmadog | 197 | 189 | 8 | |
Borth y Gest | 72 | 34 | 38 | |
Pentrefelin | 27 | 20 | 7 | |
Tremadog | 51 | 58 | 7 | |
Cyfanswm | 347 | 301 | 53 | 7 |
Gwelir mai'r mwyafrif yn erbyn y Bwrdd Ysgol ydoedd 46; ac y mae'n ddyddorol sylwi mai yn Nhremadog yn unig y caed mwyafrif o'i blaid. Priodolid y gwrthodiad i Fwgan y Dreth, a chyflwr llewyrchus yr Ysgol Genedlaethol—a'r Ysgol Frytanaidd erbyn hyn. Ebe Alltud Eifion am y dreth:—
Pwy wyr beth fydd y dreth drom, A'i dwrn ofnadwy arnom?"
WEDI'R FRWYDR.
Wedi i'r etholiad fyned heibio, ac i'r brwdfrydedd dawelu, aeth addysg ymlaen yn weddol esmwyth, er y teimlai amryw nad oedd y trethdalwyr wedi rhoddi'r ystyriaeth ddyladwy i'r cwestiwn. Yr oedd cymaint wedi ei wneuthur o bwnc y dreth gan wrthwynebwyr y Bwrdd fel ag i greu rhagfarn mawr ym meddyliau'r dosbarth mwyaf anwybodus, heb ystyried gwir deilyngdod yr achos. Credent hwy—yn eu hanwybodaeth, y mae'n sicr—fod ceiniog yn yr wythnos dros blentyn pump neu chwech oed, a hanner coron dros y plentyn deg neu dair-ar-ddeg oed, yn ddigon i dalu holl gostau'r ysgol, pryd mewn gwirionedd nad ydoedd arian y plant yn ddigon i dalu i'r athrawon cynorthwyol, heb son am gyflogau'r prif athrawon a chostau'r adeiladau. Ni sylweddolent hwy drymed oedd y draul ar ysgwyddau caredigion addysg, y rhai oedd wedi cyfrannu ugeiniau o bunnau tuag at yr amcan.
Ond yn araf caed addfedrwydd i symud ymlaen am Fwrdd Ysgol, a daeth amryw o'i wrthwynebwyr pennaf yn bleidwyr iddo. Y cam cyntaf tuag at hyn, wedi'r etholiad yn 1871, ydoedd gwaith Pwyllgor yr Ysgol Frytanaidd, yn nechreu'r flwyddyn 1877, yn anfon