hysbysiad i'r Awdurdodau Addysg yn Llunden, o'u penderfyniad i gau'r ysgol i fyny ymhen chwe' mis. Yn y cyfamser, penodwyd Mr. William Davies, o Goleg Cheltenham (Golan yn awr), yn brif athraw yr Ysgol Frytanaidd.
Yn wyneb y penderfyniad uchod, gwelwyd y byddai un ysgol yn annigonol i gyfarfod âg anghenion y dref a gofynion Deddf Addysg 1876, a deuwyd i'r penderfyniad mai doeth fyddai cymeryd llais y trethdalwyr unwaith eto ar y priodoldeb o fabwysiadu'r Bwrdd Addysg. Tuag at gael sicrwydd am rif y plant yn y plwyf—plant rhwng tair a phedair ar ddeg oed—penodwyd gwr cymhwys i fyned oddiamgylch i wneuthur ymchwiliad. Cafwyd fod 1,111 o blant yn y plwyf 851 yn mynychu'r ysgolion, a 260 yn absenoli eu hunain.
Mewn Festri Blwyfol a gynhaliwyd yn nechreu Ebrill, 1877, cynhygiodd Dr. Jones Morris, ac eiliwyd ef gan Capten Jones—eu bod i ffurfio Bwrdd Addysg. Pasiwyd y penderfyniad bron yn unfryd, heb ond tri yn ei erbyn, sef oedd y rheiny—y Parch. John Morgan, curad Porthmadog, Mr. R. I. Jones, a Mr. John Jones, Tyddyn Adi.
Ar y 19eg o Fehefin, ymgynhullodd pwyllgorau gwahanol ysgolion y plwyf i'r Ysgol Genhedlaethol, i gyfarfod â Mr. Jebb, Arholydd y Llywodraeth, er trafod y moddion goreu i gario addysg ymlaen yn y plwyf, ac er gwneud trefniadau i symud ymlaen am y Bwrdd. Penodwyd dyddiad yr etholiad i fod ar y 3ydd o Hydref. Ar y cyntaf yr oedd pymtheg wedi eu henwi fel aelodau cymhwys, tra nad oedd ond pump yn eisiau; ond ymneillduodd wyth cyn dydd yr etholiad. Yr enwau oedd yn aros oeddynt—E. S. Greaves, Robert Rowland, Owen Williams, Owen Morris, David Morris, David Roberts, a John Thomas. Y ddau ddiweddaf fu'n aflwyddiannus.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ar y 18fed o Hydref, pryd yr etholwyd Mr. E. S. Greaves yn Gadeirydd, ac yr apwyniwyd Mr. John Thomas yn Ysgrifennydd.