PENNOD V.
Y LLYWODRAETH LEOL.
"It seems to me a great truth, that human things cannot stand on selfishness, mechanical utilities, economics, and law courts; that if there be not a religious element in the relations of men, such relations are miserable, and doomed to ruin."CARLYLE.
Llys yr Ynadon—Swyddfa'r Heddgeidwaid—Llys y Manddyledion—Y Bwrdd Iechyd—Y Cyngor Dinesig—Etholiadau'r Cyngor Sir.
LLYS YR YNADON.
Y Clercod.—Mr. David Williams, 1859; Mr. Edward Breese, 1859—81; Mr. Randall Casson, 1881.
CYNHELID Llys Ynadon Eifionnydd ar y cyntaf yng Nghriccieth. Yn y flwyddyn 1825 symudodd i ystafell y Neuadd Drefol, Tremadog, lle y bu hyd y flwyddyn 1860, pryd y symudwyd i Borthmadog.
Yn yr amser boreol yr oedd pob Ynad Heddwch i feddu'r holl wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol tuag at weinyddu'r swydd; ac o byddai rhyw waith clercyddol i'w wneud, yr oedd i gyflawni hynny ei hunan, neu fyned a'i glerc ei hun i'w ganlyn.
Yr wyf, er pob ymchwil, wedi methu cael allan pa bryd y penodwyd Mr. David Williams, Broneryri, i'r swydd o Glerc Ynadon Eifionnydd, ac a fu rhagflaenydd iddo ai ni bu. Nid oes dim cofnodion i'r perwyl yn Swyddfa'r Ynadon Porthmadog; gan hynny, anfonais i Swyddfa'r Sir; a chan fod y llythyr sy'n dilyn yn taflu goleuni ar hanes datblygiad y swydd o Glerc yr Ynadon, yr wyf yn ei roddi i mewn yma.
Dear Sir,
I have your letter, and fear I cannot assist you.
As previously stated, in remote times the Justices (and they were then