Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SWYDDFA'R HEDDGEIDWAID.

Sefydlwyd 1860.

Arolygwyr (Inspectors).—William Jones, 1859; Cornelius Davies, 1859—83; Lewis Prothero, 1883—92.

Rhingyll Gweithredol (Acting Police Sergeant).—Owen Price (yn awr ar ei flwydd-dal), 1868—79.

Y Rhingylltiaid (Sergeants).—Thomas Samuel Rowlands, 1879—83; Thomas Williams, 1883—92; John Roberts, 1892—97; Thomas Jones, 1897—1908; D. M. Jones, 1908.

LLYS Y MAN DDYLEDION (County Court).

Cynhelid "Cwrt" ar y cyntaf mewn tŷ yn High Street. Y Registrar cyntaf oedd Mr. Richard Parry; dilynwyd ef gan Mr. J. Humphreys Jones. Symudwyd i'r hen Farchnad, ac oddi yno yn 1860 i Swyddfa'r Heddgeidwaid. Wedi marwolaeth Mr. J. Humphreys Jones, yn 1886, penodwyd Mr. Thomas Jones (Cynhaiarn) i'r swydd, yr hwn a'i gweinydda hyd heddyw.

Barnwr y Gylchdaith.—Mr. William Evans. Y Registrar.—Mr. Thomas Jones.

BWRDD IECHYD YNYSCYNHAIARN.

(Local Board of Health).

Y Cadeirwyr.—Mr. David Williams, 1858—60; Mr. J. W. Greaves, 1860—61; Mr. Edward Breese, 1861

Sefydlwyd y Bwrdd uchod o dan y Public Health Act, 1848, trwy orchymyn y Bwrdd Llywodraeth Leol, dyddiedig y 9fed o Dachwedd, 1857, a gyhoeddwyd mewn atodiad i'r London Gazette am y 4ydd o Chwefrol, 1858. Nodwyd rhif yr aelodau i fod yn naw, a'r 9fed o Fawrth i fod yn ddydd yr etholiad. Dewiswyd Mr. David Williams, Castell Deudraeth, i weinyddu'r swydd o returning officer. Yn yr etholiad cyntaf yr aelodau a etholwyd oeddynt—Mri. David Williams, Nathaniel Mathew, John Whitehead Greaves, Samuel Holland, Edward Windus Mathew, David Homfray,