Charles Easton Spooner, John Humphreys Jones, a Thomas Christian.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ar ddydd yr etholiad, pryd yr oedd yr oll o'r aelodau'n bresennol, a dewiswyd Mr. David Williams yn Gadeirydd.
Mewn cyfarfod o'r Bwrdd, a gynhaliwyd ar y 5ed o fis Ebrill, penodwyd Mr. Strains yn Glerc, a Mr. W. E. Morris yn Arolygydd a Swyddog Iechyd (Surveyor and Inspector of Nuisance) am flwyddyn. Ond mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Orffennaf, yr un flwyddyn (1858), penderfynwyd gwneud i ffwrdd â gwasanaeth y ddau swyddog. Mewn cyfarfod o'r Bwrdd a gynhaliwyd ar y 18fed Hydref, 1858, penodwyd Mr. Job Thomas i lanw'r ddwy swydd. Gweinyddodd Mr. Job Thomas y swydd o Glerc hyd y cyntaf o Ionawr, 1883, pryd y dewiswyd Mr. John Jones, Caerdyni, Criccieth, i'r swydd—ac efe a'i gweinydda heddyw. Rhoddwyd arno ef y swydd o Glerc a Threthgasglydd. Cyn hynny, cesglid y Dreth Leol (y General District Rate) gan Mr. William Jones, Castle House; a Threth y Nwy gan Mr. William Robert Owen.
O'r flwyddyn 1883, hyd ei farw yn 1888, gweinyddai Mr. Job Thomas fel cynhorthwydd i Mr. J. Jones.
Cwynai'r cyhoedd yn fawr oherwydd y dull y cariai y Bwrdd uchod ei waith ymlaen. Ni chyhoeddai un amser ymron unrhyw adroddiad o'i weithrediadau, ac anfoddhaus iawn ydoedd y modd y dewisid yr aelodau. Gwneid hynny trwy i'r Ysgrifennydd hysbysu, ychydig cyn terfyniad tymhor yr aelodau, fod etholiad i gymeryd lle; ac enwai'r aelodau oedd yn diweddu eu tymhor. Yna cai'r trethdalwyr ychydig ddyddiau o amser i roddi rhybudd o bersonau eraill i lanw'r lle. Os na wneid hynny o fewn y dyddiau penodedig, gwnelai'r Bwrdd hynny ei hunan; ac os na byddai gwrthwynebiad i'r rhai a enwid, byddent yn etholedig. Ond cyn lleied o hysbysrwydd a roddid i'r etholiad fel y byddai'r amser wedi myned heibio cyn y gwyddai'r trethdalwyr ddim am dano. Ond o byddai i rhywun wybod, a gwneud gwrthwynebiad mewn pryd, cymerai etholiad