le drwy i'r Clerc fyned a phapurau o amgylch, a'u dodi yn nhai'r trethdalwyr, gan orchymyn iddynt enwi eu dynion. Ymhen ychydig ddyddiau galwai am y papurau dull a gwnelai'r canlyniad yn hysbys. Parhaodd y hwnnw hyd ddyfodiad y Public Health Act, 1875, pryd yr etholid yr aelodau trwy bleidlais agored, yr hyn a fu mewn arferiad hyd ddyfodiad Deddf y Llywodraeth Leol, 1894, i rym.
Y CYNGOR DINESIG.
(The Urban District Council).
Y Cadeirwyr.—Mr. Jonathan Davies, 1895—98; Mr. R. M. Greaves, 1899—1904; Dr. W. Jones Morris, 1904 hyd Tachwedd 1905; Mr. J. R. Owen, Tach. 14eg, 1905—1910; Mr. William Morris Jones, 1810—13; Mr. Richard Newell, 1913.
Y Clerc a'r Trethgasglydd.—Mr. John Jones, 1895
Yr Assistant Overseers.—Mr. Wm. R. Owen, 1895—97; Mr. David Jones, 1897—.
Surveyor ac Arolygydd Iechydol.—Mr. Morgan Thomas, C.E., 1901—.
Pan ddaeth Deddf Llywodraeth Leol 1894 i rym, ar y 31ain o Ragfyr, 1894, newidiwyd enw'r awdurdod lleol o fod yn Fwrdd Iechyd i fod yn
"Gyngor Dinesig Ynyscynhaiarn,"
gyda naw o aelodau i'w gyfansoddi. Cymerodd yr etholiad cyntaf (trwy ballot) le ar y 24ain o Ragfyr, Mr. John Jones yn swyddog dychweliadol. Ymgeisiai un ar hugain. Wele ganlyniad yr etholiad:—Jonathan Davies, 485; Robert Isaac, 389; Dr. Samuel Griffith, 373; Morgan Jones, 307; Ebenezer Roberts, 300; J. E. Jones, 270; David Morris, 257; David Williams, 224; William Davies, 202.
Aflwyddiannus:—D. O. M. Roberts, 201; Robert McLean, 176; John Jones, 171; Thomas Morris, 168; Robert Price Lewis, 164; W. Kyffin Roberts, 144; John Williams, 123; Lewis Jones, 119; Robert Roberts,