Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.
YR EISTEDDFODAU.

"Tri diben Prydyddiaeth: cynnydd daioni,
Cynnydd deall, a chynnydd diddanwch."—Y TRIOEDD


Eisteddfod Madog 1851
Eisteddfod Eryri .1872
Eisteddfod Dalaethol Gwynedd 1887


HYD y gwyddis, ni chynhaliwyd ond pum Eisteddfod yn Nyffryn Madog. Y gyntaf ydoedd yn y Wern, Penmorfa, yn y flwyddyn 1796, o dan arolygiaeth Howel Eryri a Dafydd Ddu. Cynhaliwyd yr ail yn Nhremadog, ar yr 17eg o Fedi, 1811, o dan nawdd Mr. Madocks, pryd yr oedd yn bresennol Dafydd Ddu, Twm o'r Nant, Sion Lleyn, Dewi Wyn, ac Owen Gwyrfai. Cynhaliwyd yr eisteddfod yn y Neuadd Drefol.

Cynhaliwyd y tair dilynol ym Mhorthmadog, y gyntaf yn 1851, yr ail yn 1872, a'r drydedd yn 1887.

EISTEDDFOD 1851.

Dywed Alltud Eifion mai iddo ef y perthyn y drychfeddwl o gael yr eisteddfod hon, a hynny mewn canlyniad i ymddiddan a fu rhyngddo ef a Mrs. Gwynne, merch Mr. Madocks. Ysgrifennodd at Eben Fardd, yr hwn ar y pryd oedd yn ymgeisydd am y swydd o athraw yn Ysgol Frytanaidd Porthmadog, a chytunwyd i'w chyhoeddi ar y 15fed o Awst, 1850. Ar y diwrnod penodedig, ymgasglodd nifer o wyr blaenllaw y fro i ben Ynys Galch i'w chyhoeddi, "yng ngwyneb haul llygad goleuni." Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Syr Love Jones Parry; Mr. D. Williams, Castell Deudraeth; Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch; Mrs. Gwynne, Eben Fardd, Emrys, Beuno, Alltud