Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I.

RHAGYMADRODD.

Lle llithra'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r Traeth,
Wrth borth yr hen Gymwynas, hoff drigfa'r awen ffraeth,
Mae'r meddwl yn ymsynnu, mae'n mynnu gwneuthur hynt
Yng nghwmni glân fyfyrdod i fro yr amser gynt.

O'n blaen mae'r traeth, ond erbyn hyn mae'n forfa—
Y lle cregina yn feillioneg borfa;
A morglawdd hir yn dangos yn ardderchog
Eangder ysbryd anturiaethus Madog.

Mae'r weilgi ffromwyllt wedi cael ei ffrwyno,
A'r fan lle byddai'r wylan lwyd yn cwyno,
Yn cael ei sangu gan y gwartheg blithion,
A threfi'n awr lle chwarai'r nwyfus wendon.

—GLASYNYS.


DYWED gwyddonwyr mai o'r mynyddoedd y daeth y dyffrynnoedd. Wedi cyfnod y Rhew Mawr, daeth cyfnod y meirioli a'r dadmer, ac fel yr elai'r meirioli'n mlaen, llithrai'r rhew i lawr yn araf, a chariai gydag ef wahanol ronynnau natur i'r pantiau a'r hafnau islaw, y rhai a welir heddyw'n ddyffrynnoedd o ddolydd a gweirgloddiau ffrwythlon, a thoreithiog. Felly hefyd y gellir dweyd am Gymdeithas, bu amser, pan yr oedd preswylwyr yr ucheldiroedd yn llawer lluosocach na thrigolion y gwastadeddau. Yr oedd ochrau'r bryniau a llethrau'r mynyddoedd, yn dir cynnyrch, pan ydoedd y dyffrynnoedd yn goedwigoedd tewfrig, a'r gwaelodion yn fforestydd llawn drysni. Yr oedd i'r Hafod a'r Hendre unddas yng Nghymru cyn bod Maer nac Ustus. Ond yn araf ymadawodd eu gogoniant; dechreuwyd arloesi'r fforestydd, a chlirio'r coedwigoedd; daeth trigolion y mynyddoedd yn breswylwyr y gwastadeddau. Rhoddodd y trefi a'r pentrefi ffordd i'r trefi a'r dinasoedd, a daeth y cantrefi yn blwyfi ac yn Siroedd. Ond ni raid taflu'r golwg yn ol felly gyda Dyffryn Madog