Llosgi Tai Annedd, neu unrhyw Dai allan, Yd neu Wair; Torri Tai, neu Yspeilio ar y Ffordd Fawr Lladrata Ceffyl neu Gaseg.......£4 4s 0d
Lladrata Eiddo eu Meistr neu eu Meistres, gan was neu forwyn ......£3.0.0
Lladrata neu Anafu Buwch, Llo, Dafad, neu ryw anifail arall.........£2.10.0
Lladrata unrhyw fath o Dda neu Eiddo allan o Adeilad, neu Feusydd cauedig ........£2.2.0
Torri Coed, Canghennau, neu Blanhigion Coed byw, o unrhyw le......£1.1.0
Lladrata neu ddrygu Gwagenau, Troliau, Erydr, neu ryw Offer Hwsmonaeth .......£1.0.0
Lladrata Yd, Gwair, neu Wellt, ar eu traed neu wedi eu torri; Pytatws, Maip, neu Fresych, yn neu allan o'r ddaear ......... £1.0.0
Lladrata Mawn o Fawnog, Cors, neu oddiwrth Dy; Glo a phob Tanwydd neu ladrata Eithin ......£1.0.0
Torri Perllannau neu Erddi Herw—hela, cario Gynau, a Saethu yn y nos . Lladrata Moch neu Adar Dofion .........£0.10.0
Troseddu ar Dir neu Feusydd, trwy wneud gau Lwybrau neu Ffyrdd .........£0.10.0
Torri neu Ladiata Llidiardau, Cledrau, Pyst, neu Heiyrn a fyddo yn perthyn iddynt .........£0.10.0
Cerddedwyr a Chrefwyr digywilydd (Impudent Vagrants).........£0.10.0
Ac am unrhyw Drosedd neu Ladrad a wneler ac na enwyd uchod, rhodder y Wobr a farno Dirprwywyr y Gymdeithas yn addas; hefyd telir y draul am chwilio i gael allan unrhyw Ddrwgweithredwr, cymaint (ond nid mwy) a'r Wobr am y trosedd hwnnw.
Yn dilyn yr uchod y mae enwau tua chant o wŷr blaenllaw y cymdogaethau. Gelwid y Gymdeithas hon ar lafar gwlad yn "Glwb Lladron,"[1] a pharhaodd mewn bri hyd sefydliad yr Heddgeidwaid. Fel i bob clwb arall, yr oedd iddi ei "chinio blynyddol." Yr oedd hwnnw a'r aelodaeth i'w cael am hanner coron. Cynhelid y cinio ar Ddydd Gwyl Dewi, ym Mhenmorfa a Thremadog bob yn ail. O'r Gymdeithas hon y deilliodd y Gymdeithas Geidwadol bresennol.
- ↑ Neu "Clwb y Lladron Mawr yn cosbi lladron bach."