Cymdeithas Gynhorthwyawl Tre a Phorthmadog.<br.> Sefydlwyd Nadolig, 1838.
Llywydd, John Williams, Ysw., Tuhwnt i'r Bwlch. Is-Lywydd, Ellis Owen, Cefn y Meusydd.
Ymddiriedolwyr: Samuel Holland, Ysw., Plas y Penrhyn; John Williams, Ysw., Brecon Place. Trysorydd, Mr. Maurice Lloyd, Porthmadog. Ysgrifennydd, R. Isaac Jones, Tremadoc.
Cymdeithas Ddarllen Porthmadog, i Forwyr, Crefftwyr, ac eraill.
"Mae y Gymdeithas uchod wedi ei sefydlu er's amryw flynyddau, ac yn parhau yn fywiog yn ei gweithrediadau. Mae yn perthyn iddi ystafell ddarllen dra chyfleus, a llyfrgell at wasanaeth yr aelodau mae yr hawl sydd gan yr aelodau i gymeryd llyfrau gyda hwynt adref o'r llyfrgell, er eu galluogi i estyn manteision y sefydliad i'r cyfryw o'u teuluoedd nas gallant fod yn aelodau o'r Gymdeithas.
Mae y llyfrgell yn gynwysedig o lyfrau Cymraeg a Saesneg nifer dda o bapurau newyddion yn eu mysg ddau o bapurau dyddiol Llundain, a thri o bapurau wythnosol, ac amryw o'r cyhoeddiadau misol Cymreig. Hefyd Yr Amserau a'r Traethodydd. Mae y Gymdeithas wedi ei galluogi i osod yr holl fanteision hyn o fewn cyrraedd yr iselaf eu sefyllfa. Chwe' cheiniog yn y mis, sef deunaw ceiniog yn y chwarter, yw y cwbl o dâl am wasanaeth yr ystafell a'r llyfrau. Ac y mae tanysgrifwyr o ddeg swllt a chwe' cheiniog yn y flwyddyn yn cael gwasanaeth yr ystafell a'r llyfrau yn ddi-dâl i'w mheibion (os rhwng yr oed o dair ar ddeg a deunaw mlynedd) ac i'w prentisiaid, os y byddant yn feistriaid gwaith. Ym misoedd y gaeaf, bwriedir traddodi darlithoedd ar faterion buddiol a phoblogaidd, y rhai a fyddant yn rhydd i'r holl aelodau. Mae y cyfeisteddfod hefyd yn derbyn tanysgrifiadau o 5/- oddi wrth y llongau perthynol i'r porthladd, yr hyn sydd yn